Thema’r wythnos: Cyfathrebu
Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Cyfathrebu’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.
Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd. Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Thema’r wythnos: Fi Fy Hun
Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Fi Fy Hun’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.
Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.
Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Dewch i greu eich Bendigeidfran eich hun i ddathlu cyhoeddi ein llyfr newydd dwyieithog, Branwen gan Aidan Saunders.
Pecyn yn cynnwys templed a chyfarwyddiadau er mwyn creu’r pyped gan ddefnyddio pensiliau lliw, siswrn, glud a chaewyr papur.
I gael cip ar y llyfr ac archebu eich copi, cliciwch yma.
Thema’r wythnos: Yn yr Ardd
Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema Yn Yr Ardd i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.
Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.
Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i gyd-fynd ag un o lyfrau Amser Stori Atebol, Douglas a’r Cywion Ciwt.
Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol sy’n annog hwyl a chreadigrwydd ar ôl mwynhau stori Douglas.
Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Gwyliwch fideo Amser Stori Douglas a’r Cywion Ciwt isod!
Eisiau prynu copi o’r llyfr? Cliciwch yma.
Cofiwch hefyd am ein Pecyn Gweithgareddau cyffredinol y gellir ei ddefnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol. Cliciwch yma.
Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i’w defnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol.
Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol ar ôl mwynhau’r stori, ac a fydd yn datblygu sgiliau trafod, ysgrifennu, darllen a deall, darlunio, dychymyg a mynegi barn ymysg eraill.
Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg. Os nad oes modd argraffu, mae’r pecyn yn nodi ffyrdd amgen o wneud y dasg neu’r weithgaredd.
Cliciwch yma i weld fideos Amser Stori Atebol.
Thema’r wythnos: Yr Enfys
Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Yr Enfys’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.
Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.
Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.