COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Adnoddau am Ddim

Set Descending Direction

Grid List

9 Eitem

  1. Celf a Dylunio: Rhyfeddod Rhif

    Celf a Dylunio: Rhyfeddod Rhif

    Adnodd rhyngweithiol sy’n amlygu’r cysylltiad rhwng elfennau o rifedd mewn Celf a Dylunio ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4. Mae’n ymdrin â 17 math gwahanol o ffurfiau celf, ac yn cynnwys esiamplau o ddelweddau, esboniadau, ymarferion a chlipiau ffilm. Mae’r adnodd yn cyd-fynd â gofynion y Fframwaith Rhifedd Cenedlaethol. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  2. Gwerthfawrogi Barddoniaeth

    Gwerthfawrogi Barddoniaeth

    Adnodd ymarferol ar gyfer cyflwyno a dadansoddi barddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae’r adnodd yn cynnwys 40 o gerddi o dan 8 thema wahanol, gyda recordiadau llafar, gweithgareddau rhyngweithiol a taflenni gwaith i gyd-fynd. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  3. Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

    Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

    Adnodd dwyieithog wedi’i anelu at fyfyrwyr Blynyddoedd 13 Uned 3, Cysyniadau a damcaniaethau gwleidyddol ar gwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Uwch CBAC. Rhenir yr adnodd yn 4 uned y gellir eu lawrlwytho i ddyfeisiadau personol ar ffurf dogfennau Word a PDF. Ceir hefyd tasgau y gellir eu cyflawni mewn parau, mewn grwpiau neu’n unigol. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  4. Crash: Pecyn Astudio’r Ddrama

    Crash: Pecyn Astudio’r Ddrama

    Dyma adnodd i gynorthwyo dysgwyr ac athrawon i astudio'r ddrama Crash gan Sera Moore Williams. Mae'r adnodd yn cynnwys astudiaeth o gymeriadau, themâu a symbolau ac yn cynnwys cwestiynau a thasgau ar gyfer ymarfer yr elfen synoptig a mynegi barn. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  5. Pecyn Llenyddiaeth UG a Safon Uwch

    Pecyn Llenyddiaeth UG a Safon Uwch

    Gwefan i gynorthwyo’r myfyrwyr sy’n astudio llenyddiaeth Gymraeg ar gyfer arholiadau Cymraeg Ail Iaith Uwch Gyfrannol (UG) a Chymraeg Ail Iaith Safon Uwch. Mae’r wefan hon yn cynnwys dwy stori a phum cerdd ynghyd â gwahanol adnoddau i helpu’r defnyddiwr i ddysgu mwy am eu nodweddion llenyddol. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  6. Astudio Ffilm Patagonia

    Astudio Ffilm Patagonia

    Gwefan ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ffilm ‘Patagonia’ fel rhan o’u hastudiaethau Cymraeg Ail Iaith Uwch Gyfrannol. Mae’r adnoddau’n rhoi sylw i agweddau fel cymharu cymeriadau, trafod themâu penodol ac yn cynnig syniadau ar sut i fynegi barn ac ymateb i’r ffilm. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  7. Ieithoedd Modern

    Ieithoedd Modern

    Gwefan er mwyn cynorthwyo dysgwyr i ddysgu iaith. Mae 3 iaith: Ffrangeg, Sbaeneg, ac Almaeneg. Mae gan bob iaith 40 uned yr un, gyda phob uned wedi’i wahanu’n adran gyfieithu ac adran ymarferion. Mae 3 ymarfer ym mhob uned. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  8. Cymdeithaseg UG/Uwch

    Cymdeithaseg UG/Uwch

    Adnodd dwyieithog sy’n cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n astudio Cymdeithaseg UG / Safon Uwch. Mae 10 uned yn cynnig amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio’n hyblyg er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  9. Patagonia 150+

    Patagonia 150+

    Gwefan dairieithog – Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg - sy'n cynorthwyo’r defnyddiwr i gwblhau’r Fagloriaeth Gymraeg. Mae’n cynnwys adnoddau ar gyfer y fagloriaeth sylfaenol ac uwch, a banc adnoddau ar gyfer erthyglau defnyddwyr. Mae ystod eang o bynciau, gan gynnwys treftadaeth, newid hinsawdd, a Bioamrywiaeth. Mwy o wybodaeth
    £0.00

Set Descending Direction

Grid List

9 Eitem