COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Adnoddau am Ddim

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12

  1. Tasgau 7-11 oed: Fi Fy Hun

    Tasgau 7-11 oed: Fi Fy Hun

    Thema’r wythnos: Fi Fy Hun

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Fi Fy Hun’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  2. Creu Pyped Bendigeidfran

    Creu Pyped Bendigeidfran

    Dewch i greu eich Bendigeidfran eich hun i ddathlu cyhoeddi ein llyfr newydd dwyieithog, Branwen gan Aidan Saunders.

    Pecyn yn cynnwys templed a chyfarwyddiadau er mwyn creu’r pyped gan ddefnyddio pensiliau lliw, siswrn, glud a chaewyr papur.

    I gael cip ar y llyfr ac archebu eich copi, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  3. Tasgau 7-11 oed: Yn yr Ardd

    Tasgau 7-11 oed: Yn yr Ardd

    Thema’r wythnos: Yn yr Ardd

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema Yn Yr Ardd i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  4. Pecyn Gweithgareddau: Douglas a’r Cywion Ciwt

    Pecyn Gweithgareddau: Douglas a’r Cywion Ciwt

    Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i gyd-fynd ag un o lyfrau Amser Stori Atebol, Douglas a’r Cywion Ciwt.

    Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol sy’n annog hwyl a chreadigrwydd ar ôl mwynhau stori Douglas.

    Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg.

    Gwyliwch fideo Amser Stori Douglas a’r Cywion Ciwt isod!

    Eisiau prynu copi o’r llyfr? Cliciwch yma.

    Cofiwch hefyd am ein Pecyn Gweithgareddau cyffredinol y gellir ei ddefnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol. Cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  5. Amser Stori Atebol: Pecyn Gweithgareddau

    Amser Stori Atebol: Pecyn Gweithgareddau

    Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i’w defnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol.

    Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol ar ôl mwynhau’r stori, ac a fydd yn datblygu sgiliau trafod, ysgrifennu, darllen a deall, darlunio, dychymyg a mynegi barn ymysg eraill.

    Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg. Os nad oes modd argraffu, mae’r pecyn yn nodi ffyrdd amgen o wneud y dasg neu’r weithgaredd.

    Cliciwch yma i weld fideos Amser Stori Atebol.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  6. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  7. Tasgau a Gweithgareddau 7-11 oed: Yr Enfys

    Tasgau a Gweithgareddau 7-11 oed: Yr Enfys

    Thema’r wythnos: Yr Enfys

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Yr Enfys’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  8. Sgript Hyrwyddo Y Ferch Wyllt

    Sgript Hyrwyddo Y Ferch Wyllt

    Adnodd gwreiddiol a newydd i gyfoethogi’r llyfr Y Ferch Wyllt sydd ar restr darllen Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2019-2020, cystadleuaeth llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r adnodd yn cynnwys sgript hyrwyddo’r llyfr.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  9. Sgript Hyrwyddo Trio: Antur y Castell

    Sgript Hyrwyddo Trio: Antur y Castell

    Adnodd gwreiddiol a newydd i gyfoethogi’r llyfr Trio: Antur y Castell sydd ar restr darllen Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2019-2020, cystadleuaeth llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r adnodd yn cynnwys sgript hyrwyddo’r llyfr a disgrifiadau o’r tri phrif gymeriad.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  10. Deall Arian

    Deall Arian

    Llyfr i ddysgu am arian drwy chwarae gemau ar gyfer plant rhwng pedair ac wyth oed. Gyda chymorth parod athrawon neu rieni, bydd y plant yn casglu arian, yn edrych yn fanwl arno ac yn ei drin a’i drafod. Wrth chwarae’r gemau bydd y plant hefyd yn ymarfer eu sgiliau cymdeithasol fel aros eu tro a sgwrsio am sut y gallant ddefnyddio arian unwaith iddynt ei gael! Mwy o wybodaeth
    £0.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12