Adnodd gwreiddiol a newydd i gyfoethogi’r llyfr Trio: Antur y Castell sydd ar restr darllen Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2019-2020, cystadleuaeth llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r adnodd yn cynnwys sgript hyrwyddo’r llyfr a disgrifiadau o’r tri phrif gymeriad.
Mwy o wybodaeth
Adnodd gwreiddiol a newydd i gyfoethogi’r llyfr Y Ferch Wyllt sydd ar restr darllen Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2019-2020, cystadleuaeth llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r adnodd yn cynnwys sgript hyrwyddo’r llyfr.
Mwy o wybodaeth
Thema’r wythnos: Yr Enfys
Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Yr Enfys’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.
Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.
Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.
Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.
Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:
• Beth yw’r coronafeirws?
• Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
• Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
• Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
• A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
• Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
• Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
• Beth alli di ei wneud i helpu?
• Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?
Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.
Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.
Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i’w defnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol.
Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol ar ôl mwynhau’r stori, ac a fydd yn datblygu sgiliau trafod, ysgrifennu, darllen a deall, darlunio, dychymyg a mynegi barn ymysg eraill.
Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg. Os nad oes modd argraffu, mae’r pecyn yn nodi ffyrdd amgen o wneud y dasg neu’r weithgaredd.
Cliciwch yma i weld fideos Amser Stori Atebol.
Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i gyd-fynd ag un o lyfrau Amser Stori Atebol, Douglas a’r Cywion Ciwt.
Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol sy’n annog hwyl a chreadigrwydd ar ôl mwynhau stori Douglas.
Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Gwyliwch fideo Amser Stori Douglas a’r Cywion Ciwt isod!
Eisiau prynu copi o’r llyfr? Cliciwch yma.
Cofiwch hefyd am ein Pecyn Gweithgareddau cyffredinol y gellir ei ddefnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol. Cliciwch yma.