COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Adnoddau am Ddim

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12

  1. Mistar Urdd

    Mistar Urdd

    Dwy stori ryngweithiol am Mistar Urdd sy’n cyflwyno hwyl a sbri Urdd Gobaith Cymru: Mistar Urdd yn mynd ar daith! a Mistar Urdd yn mwynhau. Mae’n cynnwys recordiad llais a fersiwn iaith arwyddion. Mwy o wybodaeth
    £0.00
  2. Dewisiadau Positif i greu Person Iach

    Dewisiadau Positif i greu Person Iach

    Pwrpas yr adnoddau yma yw cyflwyno’r cysyniadau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles i ddisgyblion ysgol. Yn anffodus, mae nifer cynyddol o blant a phobl ifanc yn genedlaethol yn cael problemau meddyliol. Mae ymchwil yn profi gwerth ymyrryd yn gynnar a datblygu gwydnwch er mwyn hyrwyddo iechyd meddyliol positif ymysg ein pobl ifanc er mwyn osgoi problemau yn ystod eu bywyd. Nod yr adnoddau yw helpu pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd iechyd meddwl a meithrin strategaethau a sgiliau er mwyn cefnogi eu lles meddyliol a’u lles emosiynol. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  3. Amser Stori Atebol: Pecyn Gweithgareddau

    Amser Stori Atebol: Pecyn Gweithgareddau

    Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i’w defnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol.

    Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol ar ôl mwynhau’r stori, ac a fydd yn datblygu sgiliau trafod, ysgrifennu, darllen a deall, darlunio, dychymyg a mynegi barn ymysg eraill.

    Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg. Os nad oes modd argraffu, mae’r pecyn yn nodi ffyrdd amgen o wneud y dasg neu’r weithgaredd.

    Cliciwch yma i weld fideos Amser Stori Atebol.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  4. Pecyn Gweithgareddau: Douglas a’r Cywion Ciwt

    Pecyn Gweithgareddau: Douglas a’r Cywion Ciwt

    Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i gyd-fynd ag un o lyfrau Amser Stori Atebol, Douglas a’r Cywion Ciwt.

    Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol sy’n annog hwyl a chreadigrwydd ar ôl mwynhau stori Douglas.

    Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg.

    Gwyliwch fideo Amser Stori Douglas a’r Cywion Ciwt isod!

    Eisiau prynu copi o’r llyfr? Cliciwch yma.

    Cofiwch hefyd am ein Pecyn Gweithgareddau cyffredinol y gellir ei ddefnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol. Cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  5. Tasgau 7-11 oed: Yn yr Ardd

    Tasgau 7-11 oed: Yn yr Ardd

    Thema’r wythnos: Yn yr Ardd

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema Yn Yr Ardd i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  6. Creu Pyped Bendigeidfran

    Creu Pyped Bendigeidfran

    Dewch i greu eich Bendigeidfran eich hun i ddathlu cyhoeddi ein llyfr newydd dwyieithog, Branwen gan Aidan Saunders.

    Pecyn yn cynnwys templed a chyfarwyddiadau er mwyn creu’r pyped gan ddefnyddio pensiliau lliw, siswrn, glud a chaewyr papur.

    I gael cip ar y llyfr ac archebu eich copi, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  7. Tasgau 7-11 oed: Fi Fy Hun

    Tasgau 7-11 oed: Fi Fy Hun

    Thema’r wythnos: Fi Fy Hun

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Fi Fy Hun’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  8. Tasgau 7-11 oed: Cyfathrebu

    Tasgau 7-11 oed: Cyfathrebu

    Thema’r wythnos: Cyfathrebu

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Cyfathrebu’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd. Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2.

    Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  9. Pecyn Gweithgareddau: Gwiwerod Gwirion Bost

    Pecyn Gweithgareddau: Gwiwerod Gwirion Bost

    Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i gyd-fynd ag un o lyfrau Amser Stori Atebol, Gwiwerod Gwirion Bost.

    Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol sy’n annog hwyl, dysg a chreadigrwydd ar ôl mwynhau stori’r ddwy wiwer farus, Maldwyn a Tudur.

    Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg.

    Gwyliwch fideo Amser Stori Gwiwerod Gwirion Bost isod! Eisiau prynu copi o’r llyfr? Cliciwch yma.

    Cofiwch hefyd am ein Pecyn Gweithgareddau cyffredinol y gellir ei ddefnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol. Cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  10. Gŵydd a'i Gacennau

    Gŵydd a'i Gacennau

    Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12