COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Adnoddau am Ddim

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 16

  1. Themâu cyfoes mewn Daearyddiaeth: Twf a Sialens Economaidd - India a China

    Themâu cyfoes mewn Daearyddiaeth: Twf a Sialens Economaidd - India a China

    Adnodd cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr UG a Safon Uwch Daearyddiaeth sydd yn edrych ar dwf a sialens economaidd India a China. Mwy o wybodaeth
    £0.00

  2. Chwilair Ffwlbart Ffred

    Chwilair Ffwlbart Ffred

    Ydych chi wedi gweld ein llyfr newydd Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart gan Sioned Wyn Roberts?

    Mae’n lyfr stori-a-llun llawn hwyl gyda thestun sy’n odli.

    Beth am geisio chwilio am rai o’r geiriau sy’n odli yn y chwilair?

    Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y llyfr.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  3. Tasgau 7-11 oed: Cyfathrebu

    Tasgau 7-11 oed: Cyfathrebu

    Thema’r wythnos: Cyfathrebu

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Cyfathrebu’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd. Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2.

    Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  4. Tasgau 7-11 oed: Fi Fy Hun

    Tasgau 7-11 oed: Fi Fy Hun

    Thema’r wythnos: Fi Fy Hun

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Fi Fy Hun’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  5. Creu Pyped Bendigeidfran

    Creu Pyped Bendigeidfran

    Dewch i greu eich Bendigeidfran eich hun i ddathlu cyhoeddi ein llyfr newydd dwyieithog, Branwen gan Aidan Saunders.

    Pecyn yn cynnwys templed a chyfarwyddiadau er mwyn creu’r pyped gan ddefnyddio pensiliau lliw, siswrn, glud a chaewyr papur.

    I gael cip ar y llyfr ac archebu eich copi, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  6. Tasgau 7-11 oed: Yn yr Ardd

    Tasgau 7-11 oed: Yn yr Ardd

    Thema’r wythnos: Yn yr Ardd

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema Yn Yr Ardd i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  7. Pecyn Gweithgareddau: Douglas a’r Cywion Ciwt

    Pecyn Gweithgareddau: Douglas a’r Cywion Ciwt

    Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i gyd-fynd ag un o lyfrau Amser Stori Atebol, Douglas a’r Cywion Ciwt.

    Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol sy’n annog hwyl a chreadigrwydd ar ôl mwynhau stori Douglas.

    Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg.

    Gwyliwch fideo Amser Stori Douglas a’r Cywion Ciwt isod!

    Eisiau prynu copi o’r llyfr? Cliciwch yma.

    Cofiwch hefyd am ein Pecyn Gweithgareddau cyffredinol y gellir ei ddefnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol. Cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  8. Amser Stori Atebol: Pecyn Gweithgareddau

    Amser Stori Atebol: Pecyn Gweithgareddau

    Pecyn gweithgareddau newydd ar gyfer dysgwyr o dan 8 oed i’w defnyddio gydag unrhyw un o’n llyfrau stori a llun sydd i’w gweld ar Amser Stori Atebol.

    Taflenni gwaith amrywiol i’w defnyddio yn y cartref neu’r ysgol ar ôl mwynhau’r stori, ac a fydd yn datblygu sgiliau trafod, ysgrifennu, darllen a deall, darlunio, dychymyg a mynegi barn ymysg eraill.

    Mae’r pecyn yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg. Os nad oes modd argraffu, mae’r pecyn yn nodi ffyrdd amgen o wneud y dasg neu’r weithgaredd.

    Cliciwch yma i weld fideos Amser Stori Atebol.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  9. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  10. Tasgau a Gweithgareddau 7-11 oed: Yr Enfys

    Tasgau a Gweithgareddau 7-11 oed: Yr Enfys

    Thema’r wythnos: Yr Enfys

    Syniadau am dasgau a gweithgareddau syml amrywiol ar y thema ‘Yr Enfys’ i’w gwneud yn y cartref neu’r ysgol gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2, sef rhwng 7 a 11 oed. Gellir eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.

    Tasgau sy’n ymateb i Feysydd Profiad a Dysgu y Cwricwlwm newydd.

    Daw’r tasgau hyn o’n Pecyn Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 16