Llyfr stori ddwyieithog sy'n dod yn fyw gyda'r pyped Brog Broga!
Stori am froga sydd wedi tyfu'n fawr ac sy'n chwilio am gartref newydd. Mae'n darganfod cartref braf gerllaw'r felin wynt, ond mae aderyn brawychus gerllaw. Mae'n darganfod safle braf ar ochr y ffordd, ond mae o'n rhy swnllyd! Tybed a fydd Brog Broga druan yn llwyddo i ganfod cartref cyn diwedd y stori?
Llyfr pyped sy'n annog plant i ryngweithio ac ymateb, ac sy'n annog diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc iawn.