Addasiad Cymraeg gan Eurig Salisbury o 'The Koala Who Could'.
Dewch i gwrdd â Cefin y coala, sy'n hoffi pethau FEL Y MAEN NHW, heb DDIM NEWID. Ond pan mae pethau'n newid yn ddirybudd un dydd, daw Cefin i ddysgu sut i fwynhau profiadau newydd ac anhygoel. Stori ddoniol ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo pryder wrth wynebu newid.