Disgrifiad byr
Gêm a Ap hwyliog a gwahanol sydd wedi ei gynllunio ar gyfer disgyblion Cymraeg ail iaith cyfnodau allweddol 2 a 3, gyda’r bwriad o ymestyn a datblygu eu dealltwriaeth a’u defnydd o’r iaith Gymraeg drwy ddysgu am chwedlau Cymru. Mae'r gemau'n seiliedig ar 13 chwedl o 13 rhan o Gymru, o Wrachod Llanddona i Dwmbarlwm, gyda'r nod o helpu'r Dewin Myrddin i gwblhau pob cwest. Mae botwm geirfa ar gyfer pob darn o chwedl. Ar gael fel ap neu ar y cyfrifiadur.