Nofel i ddysgwyr Cymraeg, lefel Uwch, gan Sarah Reynolds. Rhan o gyfres Amdani.
Ar ôl corwynt o garwriaeth, mae Katie newydd symud i Gymru yn adnabod neb ond Dylan, ei gŵr newydd sbon. Er addo y bydden nhw'n byw mewn tŷ enfawr gyda llawer o dir o'u cwmpas ... nid felly y mae pethau. Rhannu gwely sengl yng nghartref rhieni Dylan yw eu hanes, wrth i bawb ddysgu ymdopi â ddieithwraig ryfedd yn eu plith ... a hithau'n Saesnes hollol ddi-glem!
Yn y nofel gomig hon, mae gan Katie lawer i ddysgu, am Gymru, y Gymraeg ac am ei gŵr newydd hefyd!
https://parallel.cymru/amdani/