Disgrifiad byr
Ysgifennwyd Cyflwyno Mecaneg yn arbennig i gyd-fynd â phob un o'r manylebau Mathemateg Safon Uwch a ddaeth i rym yn y flwyddyn 2000. Mae'r gyfrol hon yn delio â'r holl gynnwys sydd ei angen ar fyfyrwyr sy'n astudio mecaneg fel pwnc sengl ar gyfer Safon Uwch. Cefnogir y testun clir gan enghreifftiau, ymarferion a chwestiynau arholiad.