Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa ar gefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Mae Cris Croes yn hoffi bod yn wahanol. Mae o'n bwyta'n wahanol ac mae o'n gwisgo'n wahanol. Un diwrnod, mae Cris Croes yn mynd allan ar y beic ac mae'r dillad gwahanol yn help mawr i'r heddlu.