Disgrifiad byr
Llyfr i ddysgu am arian drwy chwarae gemau ar gyfer plant rhwng pedair ac wyth oed. Gyda chymorth parod athrawon neu rieni, bydd y plant yn casglu arian, yn edrych yn fanwl arno ac yn ei drin a’i drafod. Wrth chwarae’r gemau bydd y plant hefyd yn ymarfer eu sgiliau cymdeithasol fel aros eu tro a sgwrsio am sut y gallant ddefnyddio arian unwaith iddynt ei gael!