Cyhoeddiad o sgript drama wreiddiol Dewi Wyn Williams, ar gyfer taith Theatr Bara Caws, Tachwedd - Rhagfyr 2015.
Drama newydd a heriol am Salwch Meddwl gan enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014.
Mae'r drama'n digwydd ym mhen Oswald Pritchard. Mae Os wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fod Peter a'i seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynnol wrth iddo bendilio o un emosiwn i'r llall gan gynnig syniadau bachog a difyr am y byd a'i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.