Disgrifiad byr
Nofel ar gyfer plant 8-10 oed, gyda darluniau deniadol. Pan mae beic Llŷr yn torri, mae'n dyfaru peidio â gwrando mwy ar rybuddion ei dad dros y blynyddoedd. Dydy bywyd heb feic ddim yn llawer o hwyl! Sut ar y ddaear all Llŷr hel digon o arian i brynu beic newydd, a hynny'n gyflym?