Cardiau Gweithgareddau
Bocs gemau sy'n llawn posau a gemau addysgol. Dyma bosau fydd yn cynnig her i feithrin sgiliau meddwl a gwella'r gallu i ddysgu. Pecyn delfrydol ar gyfer pawb sydd am wella eu sgiliau meddwl, eu sgiliau datrys problemau a'u sgiliau cofio.
Mwy o wybodaeth
ar gyfer pecyn Cymraeg cliciwch yma
Mwy o wybodaeth
Jig-so dwyieithog 70 darn sy'n cyflwyno 22 o'r adar mwyaf cyffredin sy'n byw yn ein gerddi.
Bydd y jig-so deniadol a lliwgar hwn yn helpu plant i adnabod yr adar yn eu gerddi nhw yn ogystal â dysgu am enw Cymraeg ac enw Saesneg yr aderyn.
Mwy o wybodaeth
Jig-so 30 darn sy'n addas ar gyfer plant ifanc.
Mae'r jig-so yn ffurfio golygfa anturus o Barti Ddu a'i griw sy'n hwylio ar long enfawr dros y moroedd gwyllt!
Mwy o wybodaeth
Anrheg delfrydol i bob plentyn sy'n hoffi rygbi! Jig-so lliwgar sy'n dangos merched a bechgyn yn ymarfer nifer o sgiliau rygbi ar y cae chwarae. Mae'r jig-so yn enwi'r sgiliau gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Jig-so gwreiddiol gan y cartwynydd, Huw Aaron.
Mwy o wybodaeth
Stori hwyliog wedi ei gwau gyda nifer o weithgareddau rhyngweithiol.
Bydd plant wrth eu boddau yn helpu Sali Mali i brynu anrhegion, paratoi'r bagiau parti, gosod y bwrdd, coginio cacen a chreu carden pen-blwydd i Jac y Jwc. Mae'r gweithgareddau graddedig wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau rhifedd a dealltwriaeth o rif mewn plant ifanc. Mae'r CD hefyd yn datblygu llythrennedd plant.
Mwy o wybodaeth