COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Gemau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12

  1. Sgiliau Meddwl

    Sgiliau Meddwl

    Cardiau Gweithgareddau

    Bocs gemau sy'n llawn posau a gemau addysgol. Dyma bosau fydd yn cynnig her i feithrin sgiliau meddwl a gwella'r gallu i ddysgu. Pecyn delfrydol ar gyfer pawb sydd am wella eu sgiliau meddwl, eu sgiliau datrys problemau a'u sgiliau cofio.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  2. Chwedlau ac Arwyr Cymru: Cardiau Brwydro - Y Mabinogi

    Chwedlau ac Arwyr Cymru: Cardiau Brwydro - Y Mabinogi

    Gêm gardiau gwreiddiol gan Huw Aaron. Yr ail becyn yn y gyfres. Mewn arddull 'top trumps', mae cymeriad unigol ar bob cerdyn, ac mae gan bob cymeriad sgiliau gwahanol. Ffordd wych o ddod i adnabod rhai o gymeriadau enwog Y Mabinogi!

    Pecyn Saesneg hefyd ar gael cliciwch yma

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  3. Legends of Wales: Battle Cards - The Mabinogion

    Legends of Wales: Battle Cards - The Mabinogion

    Gêm gardiau gwreiddiol gan Huw Aaron. Yr ail becyn yn y gyfres. Mewn arddull 'top trumps', mae cymeriad unigol ar bob cerdyn, ac mae gan bob cymeriad sgiliau gwahanol. Ffordd wych o ddod i adnabod rhai o gymeriadau enwog Y Mabinogi!

    ar gyfer pecyn Cymraeg cliciwch yma

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  4. Jig-so Yr Wyddor

    Jig-so Yr Wyddor

    Jig-so 29 darn, un darn ar gyfer pob llythyren yn yr Wyddor Gymraeg. Mae'r darnau'n ffitio i un bwlch yn unig er mwyn hybu'r defnyddiwr i roi'r darnau yn y drefn gywir. Dyma ffordd hwylus i blant a dysgwyr Cymraeg i ddysgu'r wyddor Gymraeg. Mwy o wybodaeth
    £6.98

  5. Jig-so Môr-ladron

    Jig-so Môr-ladron

    Jig-so 30 darn sy'n addas ar gyfer plant ifanc.

    Mae'r jig-so yn ffurfio golygfa anturus o Barti Ddu a'i griw sy'n hwylio ar long enfawr dros y moroedd gwyllt!

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  6. CD ROM - Pogos yn y Parc

    CD ROM - Pogos yn y Parc

    CD ROM dwyieithog sy'n helpu i ddatblygu sgiliau plant ifanc y Cyfnod Sylfaen. Mae'r pogos yn gymeriadau doniol a hwyliog, ac yn y CD ROM yma mae nhw'n cyflwyno chwech gweithgaredd i'r plentyn er mwyn datblygu'r sgiliau canlynol; defnyddio ac arbrofi gyda chyfrifiaduron yn annibynnol - sylwi ar debygrwydd a gwahaniaethau rhwng gwrthrychau - Datblygu creadigrwydd - Sgiliau dweud yr amser. Mwy o wybodaeth
    £9.98

  7. Jig-so Ar y Fferm

    Jig-so Ar y Fferm

    Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Jig-so gyda 22 darn cadarn yw hwn, addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r jig-so yn creu golygfa ddoniol a hapus o fuarth y fferm; buwch yn gyrru tractor, ci yn bwydo'r ceffylau, pawb yn cael hwyl! Jig-so fydd yn dod â gwên i'r wyneb ac yn datblygu sgiliau meddwl plant bach. Anrheg poblogaidd iawn! Mwy o wybodaeth
    £6.98

  8. Pogos

    Pogos

    Dewch i gnocio ar ddrws y Pogos, eu helpu i gasglu pili-palod, i chwarae cuddio a chael hwyl wrth ddysgu Mwy o wybodaeth
    £9.98

  9. Jig-so Ar Saffari

    Jig-so Ar Saffari

    Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig i'r cwmni. Dewch ar safari gyda'r jig-so 18 darn yma sy'n addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r darnau'n gadarn ac wedi eu creu mewn siapiau anifeiliaid! Cewch gwrdd â'r teigr, yr eliffant, y rhinoseros, y jiraff a llawer mwy! Ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau meddwl y plentyn. Anrheg poblogaidd iawn i blant bach. Mwy o wybodaeth
    £6.98

  10. CD ROM - Sali Mali: 123

    CD ROM - Sali Mali: 123

    Stori hwyliog wedi ei gwau gyda nifer o weithgareddau rhyngweithiol.

    Bydd plant wrth eu boddau yn helpu Sali Mali i brynu anrhegion, paratoi'r bagiau parti, gosod y bwrdd, coginio cacen a chreu carden pen-blwydd i Jac y Jwc. Mae'r gweithgareddau graddedig wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau rhifedd a dealltwriaeth o rif mewn plant ifanc. Mae'r CD hefyd yn datblygu llythrennedd plant.

    Mwy o wybodaeth
    £9.98

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12