COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Gemau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 11

  1. Chwarae'r Gêm

    Chwarae'r Gêm

    Pecyn dwyieithog sy'n cynnwys ugain gweithgaredd ddwyieithog i blant gan Mair Tomos Ifans. Mae'r pecyn yn cynnwys gemau unigol y gellir eu chwarae tu fewn, tu allan ac mewn parti pen-blwydd. Ffordd wych o ddatblygu iaith lafar y plant tra'n cael hwyl ar yr un pryd. Addas ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, dysgwyr a theuluoedd. Mwy o wybodaeth
    £23.95

  2. Jig-so Siôn Corn

    Jig-so Siôn Corn

    Jig-so 33 darn sy'n addas ar gyfer plant ifanc.

    Delwedd nadoligaidd hyfryd o'r dyn ei hun, Siôn Corn, ar noswyl y Nadolig. Anrheg hyfryd ar gyfer tymor y Nadolig!

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  3. Canlyniadau

    Canlyniadau

    Pum stori rhyngweithiol sydd wedi eu cynllunio i hybu trafodaeth ddosbarth ar bynciau ABCh. Mwy o wybodaeth
    £24.98

  4. Jig-so Ar y Fferm

    Jig-so Ar y Fferm

    Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Jig-so gyda 22 darn cadarn yw hwn, addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r jig-so yn creu golygfa ddoniol a hapus o fuarth y fferm; buwch yn gyrru tractor, ci yn bwydo'r ceffylau, pawb yn cael hwyl! Jig-so fydd yn dod â gwên i'r wyneb ac yn datblygu sgiliau meddwl plant bach. Anrheg poblogaidd iawn! Mwy o wybodaeth
    £6.98

  5. Jig-so Ar Saffari

    Jig-so Ar Saffari

    Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig i'r cwmni. Dewch ar safari gyda'r jig-so 18 darn yma sy'n addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r darnau'n gadarn ac wedi eu creu mewn siapiau anifeiliaid! Cewch gwrdd â'r teigr, yr eliffant, y rhinoseros, y jiraff a llawer mwy! Ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau meddwl y plentyn. Anrheg poblogaidd iawn i blant bach. Mwy o wybodaeth
    £6.98

  6. Jig-so Castell y Ddraig

    Jig-so Castell y Ddraig

    Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Jig-so 50 darn yw hwn sy'n addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r jig-so yn creu darlun o fyd hud a lledirith Casi a Cai; Castell godidog a dreigiau o bob lliw a llun. Ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau meddwl a chreadigol y plentyn. Anrheg poblogaidd iawn! Mwy o wybodaeth
    £6.98

  7. Pecyn Cardiau Chwarae Rôl

    Pecyn Cardiau Chwarae Rôl

    Set o 16 o gardiau sy'n cynnwys darlun o sefyllfa penodol ar un ochr a syniadau am weithgareddau dosbarth a gweithgareddau ar gyfer yr iard ar yr ochr arall. Mae'r cardiau'n addas ar gyfer y dosbarth, y cartref agrwpiau o blant 3 i 7 oed. Mwy o wybodaeth
    £14.95

  8. Pecyn Gemau Bwrdd y Parot Piws - Dwyieithog

    Pecyn Gemau Bwrdd y Parot Piws - Dwyieithog

    Pecyn sy'n cynnwys tair gem Gymraeg a thair gem Saesneg.

    Siopa a Shopping Spree: Gemau i hybu sgiliau mathemateg, llythrennedd, arsylwi a meddwl.

    Sgram a Food For Thought: Gemau i hybu bwyta'n iach a chadw'r corff a'r meddwl yn iach.

    Janglo a Lets Talk: Gemau i fagu hyder wrth drafod emosiynau, gemau gwych i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gwrando.

    Mwy o wybodaeth
    £59.98

  9. Jig-so Môr-ladron

    Jig-so Môr-ladron

    Jig-so 30 darn sy'n addas ar gyfer plant ifanc.

    Mae'r jig-so yn ffurfio golygfa anturus o Barti Ddu a'i griw sy'n hwylio ar long enfawr dros y moroedd gwyllt!

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  10. Jig-so Heini

    Jig-so Heini

    Mae Heini yn gymeriad poblogaidd ar raglenni CYW, S4C. Yn y jig-so 50 darn, bydd Heini'n annog plant i fwyta'n iach trwy gyflwyno darluniau amrywiol a lliwgar o ffrwythau a llysiau. Bydd plant yn mwynhau dod i adnabod y bwydydd a dysgu'r enwau Cymraeg a Saesneg. Un o'n jig-sos mwyaf poblogaidd! Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Mwy o wybodaeth
    £6.98

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 11