Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.
Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.
Cyfarwyddiadau dwyieithog.
Mwy o wybodaeth
Cardiau Gweithgareddau
Bocs gemau sy'n llawn posau a gemau addysgol. Dyma bosau fydd yn cynnig her i feithrin sgiliau meddwl a gwella'r gallu i ddysgu. Pecyn delfrydol ar gyfer pawb sydd am wella eu sgiliau meddwl, eu sgiliau datrys problemau a'u sgiliau cofio.
Mwy o wybodaeth
Mae Amser Chwarae: Bocs Tŵls Adeiladwr yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Mae'r bocs yn cynnwys 15 darn jig-so sy'n ffitio i mewn i'r llyfr bwrdd lliwgar. Ffordd wych o ddysgu sgiliau creadigol, cydsymud a datrys problemau.
Mwy o wybodaeth
Anrheg delfrydol i bob plentyn sy'n hoffi rygbi! Jig-so lliwgar sy'n dangos merched a bechgyn yn ymarfer nifer o sgiliau rygbi ar y cae chwarae. Mae'r jig-so yn enwi'r sgiliau gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Jig-so gwreiddiol gan y cartwynydd, Huw Aaron.
Mwy o wybodaeth
Pecyn sy'n cynnwys tair gem Gymraeg a thair gem Saesneg.
Siopa a Shopping Spree: Gemau i hybu sgiliau mathemateg, llythrennedd, arsylwi a meddwl.
Sgram a Food For Thought: Gemau i hybu bwyta'n iach a chadw'r corff a'r meddwl yn iach.
Janglo a Lets Talk: Gemau i fagu hyder wrth drafod emosiynau, gemau gwych i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gwrando.
Mwy o wybodaeth
Stori ryngweithiol hudolus wedi ei phlethu i nifer o weithgareddau Nadoligaidd.
Bydd plant wrth eu bodd yn lliwio'r cardiau Nadolig ac yn addurno'r ty a'r goeden wrth iddynt ddysgu am batrymau, adnabod a didoli siapiau 2D, iaith leoli a lliw.
Mwy o wybodaeth