Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.
Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.
Cyfarwyddiadau dwyieithog.
Mwy o wybodaeth
Cardiau Gweithgareddau
Bocs gemau sy'n llawn posau a gemau addysgol. Dyma bosau fydd yn cynnig her i feithrin sgiliau meddwl a gwella'r gallu i ddysgu. Pecyn delfrydol ar gyfer pawb sydd am wella eu sgiliau meddwl, eu sgiliau datrys problemau a'u sgiliau cofio.
Mwy o wybodaeth
Mae Amser Chwarae: Bocs Tŵls Adeiladwr yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Mae'r bocs yn cynnwys 15 darn jig-so sy'n ffitio i mewn i'r llyfr bwrdd lliwgar. Ffordd wych o ddysgu sgiliau creadigol, cydsymud a datrys problemau.
Mwy o wybodaeth
Ailargraffu ar hyn o bryd
Llyfr bwrdd gyda darnau jig-so lliwgar a chadarn sy'n ffitio i mewn i'r tudalennau.
Bydd plant bach wrth eu bodd yn dysgu eu geiriau cyntaf trwy gyfateb y lluniau gyda'r geiriau ar y tudalennau.
Adnodd sy'n annog cyd chwarae ac oriau o hwyl!
Out of stock
Jig-so dwyieithog 70 darn sy'n cyflwyno 22 o'r adar mwyaf cyffredin sy'n byw yn ein gerddi.
Bydd y jig-so deniadol a lliwgar hwn yn helpu plant i adnabod yr adar yn eu gerddi nhw yn ogystal â dysgu am enw Cymraeg ac enw Saesneg yr aderyn.
Mwy o wybodaeth
Jig-so gwreiddiol wedi'i ddarlunio gan yr arlunydd poblogaidd Lizzie Spikes o Geredigion.
Mae'r jig-so yn cynnwys pennill o'r rhigwm Cymraeg mwyaf enwog; 'Mi Welais Jac y Do..', ochr yn ochr â darlun trawiadol Lizzie, sy'n dod â'r geiriau yn fyw. Anrheg hyfryd i blant bach.
Mwy o wybodaeth
Jig-so gwreiddiol a chyfoes wedi'i ddylunio gan y cartwnydd Huw Aaron i addysgu'r wyddor Saesneg.
Mae'r darnau unigol yn cynnwys llythrennau unigol y wyddor Saesneg, pob un wedi'i bersonoli gyda phersonoliaeth unigryw a doniol! Ffordd hwyliog a lliwgar o ddysgu'r wyddor Saesneg.
Mwy o wybodaeth