COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Gemau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 47

  1. Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.

    Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.

    Cyfarwyddiadau dwyieithog.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. 100 Pethau Difyr I'w Gwneud - Cardiau Gweithgareddau

    100 Pethau Difyr I'w Gwneud - Cardiau Gweithgareddau

    Cant o weithgareddau difyr i'r plant iau! Gweithgareddau amrywiol a difyr fydd yn siwr o blesio'r plantos! Posau, lluniau i'w lliwio, tasgau chwilota a mwy! Ffordd wych o ddiddanu'r plant ar siwrne, mewn bwyty neu yn y cartref. Addas i blant 4+. Mae'r bocs yn cynnwys pen du a gellir sychu'r cardiau a'u hailddefnyddio dro ar ôl tro! Mwy o wybodaeth
    £6.98

  3. Sgiliau Meddwl

    Sgiliau Meddwl

    Cardiau Gweithgareddau

    Bocs gemau sy'n llawn posau a gemau addysgol. Dyma bosau fydd yn cynnig her i feithrin sgiliau meddwl a gwella'r gallu i ddysgu. Pecyn delfrydol ar gyfer pawb sydd am wella eu sgiliau meddwl, eu sgiliau datrys problemau a'u sgiliau cofio.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. Posau Maths

    Posau Maths

    Cardiau sychu a 'sgwennu gyda gweithgareddau methameategol ar y ddwy ochr.

    Bocs llawn o bosau a gêmau sy'n cynnig her a sialens fathemategol. Defnyddiwch y pen i ysgrifennu'r atebion ar y cardiau sgwennu ac yna eu sychu'n lân.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Amser Chwarae – Bocs Tŵls Adeiladwr / Let's Pretend - Builder's Tool Kit

    Amser Chwarae – Bocs Tŵls Adeiladwr / Let's Pretend - Builder's Tool Kit

    Mae Amser Chwarae: Bocs Tŵls Adeiladwr yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Mae'r bocs yn cynnwys 15 darn jig-so sy'n ffitio i mewn i'r llyfr bwrdd lliwgar. Ffordd wych o ddysgu sgiliau creadigol, cydsymud a datrys problemau.

    Mwy o wybodaeth
    £11.99

  6. Jig-so Heini

    Jig-so Heini

    Mae Heini yn gymeriad poblogaidd ar raglenni CYW, S4C. Yn y jig-so 50 darn, bydd Heini'n annog plant i fwyta'n iach trwy gyflwyno darluniau amrywiol a lliwgar o ffrwythau a llysiau. Bydd plant yn mwynhau dod i adnabod y bwydydd a dysgu'r enwau Cymraeg a Saesneg. Un o'n jig-sos mwyaf poblogaidd! Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Mwy o wybodaeth
    £6.98

  7. Jig-so Nos Da

    Jig-so Nos Da

    Jig-so gwreiddiol wedi'i ddarlunio gan Lizzie Spikes, yr artist o Geredigion.

    Mae'r jig-so yn cynnwys y rhigwm poblogaidd 'Nos Da, Cysga dy Ora'... a delwedd drawiadol sy'n dod â'r geiriau yn fyw i blant bach.

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  8. Jig-so Rygbi

    Jig-so Rygbi

    Anrheg delfrydol i bob plentyn sy'n hoffi rygbi! Jig-so lliwgar sy'n dangos merched a bechgyn yn ymarfer nifer o sgiliau rygbi ar y cae chwarae. Mae'r jig-so yn enwi'r sgiliau gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

    Jig-so gwreiddiol gan y cartwynydd, Huw Aaron.

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  9. Gemau'r Parot Piws: Be ti'n wneud?

    Gemau'r Parot Piws: Be ti'n wneud?

    Gêm sy'n creu ymwybyddiaeth o sgiliau personol a chymdeithasol. Gêm sy'n rhoi cyfle i ymarfer sgiliau sylfaenol fel gwrando, gofyn cwestiynau, trafod teimladau ac emosiynau personol a sut i ymateb i sefyllfaoedd arbennig o fewn y gymdeithas. Addas ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 7 a 14 oed. Mwy o wybodaeth
    £14.99

  10. Gemau'r Parot Piws: Bocs 2

    Gemau'r Parot Piws: Bocs 2

    Bocs sy'n cynnwys 4 gêm sy'n helpu i feithrin a datblygu iaith a sgiliau meddwl. Odl Odl, Gair am Aur, Dyma Fo Dyma Fe a Trio! Trio! Trio! Addas ar gyfer chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
    £21.98

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 47