Matiau mathemateg a CD rhyngweithiol ar gyfer y bwrdd gwyn. Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer astudio Lleoli Rhif, Lluosi a Rhannu a Ffracsiynau Cywerth. Matiau A3 wedi'u lamineiddio sy'n hybu'r gwaith o wella sgiliau mathemategol. Matiau dwy ochrog gyda gwybodaeth fathemategol ar un ochr ac ymarferion ar yr ochr arall. Addas ar gyfer datblygu Sgiliau Sylfaenol mewn mathemateg. Mae modd ysgrifennu ar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddio'r CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatu i'r plant fwydo'r atebion a chael ymateb i weld a ydyn nhw'n gywir ai pheidio.
Mwy o wybodaeth