Ai chi ydy’r arwr dewr i goncro’r castell? Byddwch yn ofalus! Mae sawl gelyn am eich rhwystro. Dro arall, bydd ffrind i’ch helpu i gipio’r castell!
Mae'r gêm yn cynnwys dis chwarae a darnau chwarae pwrpasol ar gyfer y gêm.
CYNNWYS DARNAU BACH - nid yw'n addas ar gyfer plant sy'n iau na 36 mis oed.
GEMAU IAITH a SGILIAU MEDDWL
Meysydd Dysgu a Phrofiad
✓ Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
✓ Mathemateg a Rhifedd
Siopa
✓ gwella sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a chyfathrebu
✓ gwella sgiliau sylfaenol mewn rhifedd o fewn cyd-destun trin arian
✓ hyrwyddo a datblygu sgiliau arsylwi a sgiliau meddwl
✓ hyrwyddo sgiliau personol a chymdeithasol
✓ addas ar gyfer plant sydd am feithrin eu sgiliau sylfaenol mewn awyrgylch anffurfiol
✓ mae hyd at bedwar tîm o ddau yn gallu chwarae’r gêm
✓ dwy lefel wahanol gydag un lefel yn cynnwys cardiau elusen a chynilo
Trio, Trio, Trio
✓ gêm sy’n helpu i feithrin a datblygu iaith gynnar
✓ addas ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn y Gymraeg
✓ gêm sy’n cynnig cyfle i blant ymarfer eu geiriau cyntaf yn y Gymraeg
✓ tair set o gardiau lliw petryal gyda 52 cerdyn ymhob set
✓ addas ar gyfer pedwar chwaraewr
✓ addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddyn nhw
✓ addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn ail iaith iddyn nhw
✓ pawb sydd angen help gyda darllen
Odl! Odl!
✓ gêm gardiau hwyliog i feithrin a datblygu iaith, sgiliau cyd-ddarllen a sgiliau arsylwi a chanolbwyntio.
✓ addas ar gyfer 1-4 o chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith.