Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.
Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.
Cyfarwyddiadau dwyieithog.
Mwy o wybodaeth
Anrheg delfrydol i bob plentyn sy'n hoffi rygbi! Jig-so lliwgar sy'n dangos merched a bechgyn yn ymarfer nifer o sgiliau rygbi ar y cae chwarae. Mae'r jig-so yn enwi'r sgiliau gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Jig-so gwreiddiol gan y cartwynydd, Huw Aaron.
Mwy o wybodaethRegular Price: £6.98
Pris Arbennig £4.20
Stori ryngweithiol hudolus wedi ei phlethu i nifer o weithgareddau Nadoligaidd.
Bydd plant wrth eu bodd yn lliwio'r cardiau Nadolig ac yn addurno'r ty a'r goeden wrth iddynt ddysgu am batrymau, adnabod a didoli siapiau 2D, iaith leoli a lliw.
Mwy o wybodaeth
Stori hwyliog wedi ei gwau gyda nifer o weithgareddau rhyngweithiol.
Bydd plant wrth eu boddau yn helpu Sali Mali i brynu anrhegion, paratoi'r bagiau parti, gosod y bwrdd, coginio cacen a chreu carden pen-blwydd i Jac y Jwc. Mae'r gweithgareddau graddedig wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau rhifedd a dealltwriaeth o rif mewn plant ifanc. Mae'r CD hefyd yn datblygu llythrennedd plant.
Mwy o wybodaeth