COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Gemau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 13

  1. Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.

    Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.

    Cyfarwyddiadau dwyieithog.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Jig-so Heini

    Jig-so Heini

    Mae Heini yn gymeriad poblogaidd ar raglenni CYW, S4C. Yn y jig-so 50 darn, bydd Heini'n annog plant i fwyta'n iach trwy gyflwyno darluniau amrywiol a lliwgar o ffrwythau a llysiau. Bydd plant yn mwynhau dod i adnabod y bwydydd a dysgu'r enwau Cymraeg a Saesneg. Un o'n jig-sos mwyaf poblogaidd! Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Mwy o wybodaeth
    £6.98

  3. Jig-so Rygbi

    Jig-so Rygbi

    Anrheg delfrydol i bob plentyn sy'n hoffi rygbi! Jig-so lliwgar sy'n dangos merched a bechgyn yn ymarfer nifer o sgiliau rygbi ar y cae chwarae. Mae'r jig-so yn enwi'r sgiliau gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

    Jig-so gwreiddiol gan y cartwynydd, Huw Aaron.

    Mwy o wybodaeth
    £6.98

  4. CD ROM - Sali Mali: Picnic

    CD ROM - Sali Mali: Picnic

    Cyfle i blant i fynd am bicnic gyda Sali Mali a'i ffrindiau ac i ddysgu am rannu, rhannau o'r corff a bwyta'n iach. Addas i blant 3-5 oed Mwy o wybodaeth
    £9.98

  5. CD ROM - Sali Mali: Nadolig

    CD ROM - Sali Mali: Nadolig

    Stori ryngweithiol hudolus wedi ei phlethu i nifer o weithgareddau Nadoligaidd.

    Bydd plant wrth eu bodd yn lliwio'r cardiau Nadolig ac yn addurno'r ty a'r goeden wrth iddynt ddysgu am batrymau, adnabod a didoli siapiau 2D, iaith leoli a lliw.

    Mwy o wybodaeth
    £11.99

  6. CD ROM - Sali Mali: 123

    CD ROM - Sali Mali: 123

    Stori hwyliog wedi ei gwau gyda nifer o weithgareddau rhyngweithiol.

    Bydd plant wrth eu boddau yn helpu Sali Mali i brynu anrhegion, paratoi'r bagiau parti, gosod y bwrdd, coginio cacen a chreu carden pen-blwydd i Jac y Jwc. Mae'r gweithgareddau graddedig wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau rhifedd a dealltwriaeth o rif mewn plant ifanc. Mae'r CD hefyd yn datblygu llythrennedd plant.

    Mwy o wybodaeth
    £9.98

  7. CD ROM - Pogos yn y Parc

    CD ROM - Pogos yn y Parc

    CD ROM dwyieithog sy'n helpu i ddatblygu sgiliau plant ifanc y Cyfnod Sylfaen. Mae'r pogos yn gymeriadau doniol a hwyliog, ac yn y CD ROM yma mae nhw'n cyflwyno chwech gweithgaredd i'r plentyn er mwyn datblygu'r sgiliau canlynol; defnyddio ac arbrofi gyda chyfrifiaduron yn annibynnol - sylwi ar debygrwydd a gwahaniaethau rhwng gwrthrychau - Datblygu creadigrwydd - Sgiliau dweud yr amser. Mwy o wybodaeth
    £10.00

  8. Jig-so Santa a'i Sled

    Jig-so Santa a'i Sled

    Ho! Ho! Ho! Ydych chi'n barod am y Nadolig? Dyma jig-so sy'n siwr o fynd â chi i ysbryd y Nadolig gyda delwedd hudolus o Siôn Corn a'i geirw yn hedfan uwchben y byd ac yn chwifio atom ni i gyd! Jig-so lliwgar gyda 26 o ddarnau sy'n addas i blant ifanc. Anrheg Nadolig wych. Mwy o wybodaeth
    £6.98

  9. Jig-so Castell y Ddraig

    Jig-so Castell y Ddraig

    Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Jig-so 50 darn yw hwn sy'n addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r jig-so yn creu darlun o fyd hud a lledirith Casi a Cai; Castell godidog a dreigiau o bob lliw a llun. Ffordd hwyliog o ddatblygu sgiliau meddwl a chreadigol y plentyn. Anrheg poblogaidd iawn! Mwy o wybodaeth
    £6.98

  10. Jig-so Ar y Fferm

    Jig-so Ar y Fferm

    Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Jig-so gyda 22 darn cadarn yw hwn, addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r jig-so yn creu golygfa ddoniol a hapus o fuarth y fferm; buwch yn gyrru tractor, ci yn bwydo'r ceffylau, pawb yn cael hwyl! Jig-so fydd yn dod â gwên i'r wyneb ac yn datblygu sgiliau meddwl plant bach. Anrheg poblogaidd iawn! Mwy o wybodaeth
    £6.98

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 13