Mae Larsen yn un o'r gwneuthurwyr jig-sos gorau yn y byd ac mae Atebol yn falch o fod yn ddosbarthwr Prydeinig ar gyfer y cwmni. Jig-so gyda 22 darn cadarn yw hwn, addas ar gyfer plant ifanc. Mae'r jig-so yn creu golygfa ddoniol a hapus o fuarth y fferm; buwch yn gyrru tractor, ci yn bwydo'r ceffylau, pawb yn cael hwyl! Jig-so fydd yn dod â gwên i'r wyneb ac yn datblygu sgiliau meddwl plant bach. Anrheg poblogaidd iawn!
Mwy o wybodaeth