Jig-so gwreiddiol a hwyliog gan y cartwnydd poblogaidd, Huw Aaron.
Jig-so sy'n darlunio noswyl y Nadolig, gyda Sion Corn a'i sled yn hedfan yn uchel yn yr awyr, gyda golygfa o gestyll a chaeau rygbi Cymru islaw....Ond, nid ceirw sy'n tynnu'r sled yn y darlun doniol hwn, ond defaid!
Anrheg hyfryd i baratoi'r plant ar gyfer y diwrnod mawr neu i'w roi mewn hosan dan y goeden!
Mwy o wybodaeth
Stori hwyliog wedi ei gwau gyda nifer o weithgareddau rhyngweithiol.
Bydd plant wrth eu boddau yn helpu Sali Mali i brynu anrhegion, paratoi'r bagiau parti, gosod y bwrdd, coginio cacen a chreu carden pen-blwydd i Jac y Jwc. Mae'r gweithgareddau graddedig wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau rhifedd a dealltwriaeth o rif mewn plant ifanc. Mae'r CD hefyd yn datblygu llythrennedd plant.
Mwy o wybodaeth