Jig-so 29 darn, un darn ar gyfer pob llythyren yn yr Wyddor Gymraeg. Mae'r darnau'n ffitio i un bwlch yn unig er mwyn hybu'r defnyddiwr i roi'r darnau yn y drefn gywir. Dyma ffordd hwylus i blant a dysgwyr Cymraeg i ddysgu'r wyddor Gymraeg. Mwy o wybodaeth
Gêm i feithrin iaith gynnar yn Gymraeg sy’n datblygu sgiliau arsylwi a chanolbwyntio. Addas ar gyfer 1-4 chwaraewr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
Bocs sy'n cynnwys 4 gêm sy'n helpu i feithrin a datblygu iaith a sgiliau meddwl.
Odl Odl, Gair am Aur, Dyma Fo Dyma Fe a Trio! Trio! Trio!
Addas ar gyfer chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
Gêm fwrdd sy'n rhoi cyfle i wella hyder a rhoi cyfle i drafod emosiynau drwy siarad, yn ogystal â gwella rhyngweithio cymdeithasol a meithrin cymryd rhan. Cyfle i wella sgiliau cyfathrebu, hyrwyddo sgiliau gwrando a meithrin sgiliau cymdeithasol.
I ddysgu mwy gweler y fideo gwybodaeth isod!
Mwy o wybodaeth
Gêm sy’n meithrin a datblygu sgiliau iaith drwy adnabod a defnyddio idiomau yn Gymraeg. Addas ar gyfer 2-4 chwaraewr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
Gêm sy'n creu ymwybyddiaeth o sgiliau personol a chymdeithasol. Gêm sy'n rhoi cyfle i ymarfer sgiliau sylfaenol fel gwrando, gofyn cwestiynau, trafod teimladau ac emosiynau personol a sut i ymateb i sefyllfaoedd arbennig o fewn y gymdeithas. Addas ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 7 a 14 oed.
I ddysgu mwy gweler y fideo gwybodaeth isod!
Mwy o wybodaeth
Gêm addysgol ar gyfer meithrin sgiliau trin arian. Mae modd chwarae’r gêm ar ddwy lefel wahanol. Addas i blant 7-14 oed. Gellir chwarae'r gem at ddwy lefel yn ddibynnol at oedran y plentyn.Addas ar gyfer 2 i 4 o chwaraewyr.
I ddysgu mwy gweler y fideo gwybodaeth isod!
Mwy o wybodaeth
Gêm gardiau hwyliog i feithrin a datblygu iaith, sgiliau cyn-ddarllen a sgiliau arsylwi a chanolbwyntio. Addas ar gyfer un neu fwy o chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
Diolch am ymweld â ni. Mae’r safle hon yn defnyddio cwcis - os yw hynny’n iawn efo chi,
parhewch i bori’r safle. Os ydych chi am wybod rhagor, neu os ydych chi’n gweld y neges hon
dro ar ôl tro, cliciwch yma i weld ein polisi cwcis, ac yma i weld ein polisi preifatrwydd.
Thank you for visiting us. This site uses cookies, if you’re ok with that, just continue.
If you want to find out more, or are seeing this message repeatedly, click here to see our cookie policy, and here to see our
privacy policy.