GEMAU IAITH a SGILIAU MEDDWL
Meysydd Dysgu a Phrofiad
✓ Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
✓ Mathemateg a Rhifedd
Siopa
✓ gwella sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a chyfathrebu
✓ gwella sgiliau sylfaenol mewn rhifedd o fewn cyd-destun trin arian
✓ hyrwyddo a datblygu sgiliau arsylwi a sgiliau meddwl
✓ hyrwyddo sgiliau personol a chymdeithasol
✓ addas ar gyfer plant sydd am feithrin eu sgiliau sylfaenol mewn awyrgylch anffurfiol
✓ mae hyd at bedwar tîm o ddau yn gallu chwarae’r gêm
✓ dwy lefel wahanol gydag un lefel yn cynnwys cardiau elusen a chynilo
Trio, Trio, Trio
✓ gêm sy’n helpu i feithrin a datblygu iaith gynnar
✓ addas ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn y Gymraeg
✓ gêm sy’n cynnig cyfle i blant ymarfer eu geiriau cyntaf yn y Gymraeg
✓ tair set o gardiau lliw petryal gyda 52 cerdyn ymhob set
✓ addas ar gyfer pedwar chwaraewr
✓ addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddyn nhw
✓ addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn ail iaith iddyn nhw
✓ pawb sydd angen help gyda darllen
Odl! Odl!
✓ gêm gardiau hwyliog i feithrin a datblygu iaith, sgiliau cyd-ddarllen a sgiliau arsylwi a chanolbwyntio.
✓ addas ar gyfer 1-4 o chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith.
Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.
Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.
Cyfarwyddiadau dwyieithog.
Mwy o wybodaeth
Cardiau sychu a 'sgwennu gyda gweithgareddau methameategol ar y ddwy ochr.
Bocs llawn o bosau a gêmau sy'n cynnig her a sialens fathemategol. Defnyddiwch y pen i ysgrifennu'r atebion ar y cardiau sgwennu ac yna eu sychu'n lân.
Mwy o wybodaeth
Jig-so gwreiddiol wedi'i ddarlunio gan yr arlunydd poblogaidd Lizzie Spikes o Geredigion.
Mae'r jig-so yn cynnwys pennill o'r rhigwm Cymraeg mwyaf enwog; 'Mi Welais Jac y Do..', ochr yn ochr â darlun trawiadol Lizzie, sy'n dod â'r geiriau yn fyw. Anrheg hyfryd i blant bach.
Mwy o wybodaeth
Regular Price: £6.98
Pris Arbennig £5.87
Jig-so gwreiddiol wedi'i ddarlunio gan Lizzie Spikes, yr artist o Geredigion.
Mae'r jig-so yn cynnwys y rhigwm poblogaidd 'Nos Da, Cysga dy Ora'... a delwedd drawiadol sy'n dod â'r geiriau yn fyw i blant bach.
Mwy o wybodaeth
Jig-so gwreiddiol wedi'i ddylunio gan yr arlunydd Lizzie Spikes o Geredigion.
Mae'r jig-so yn cynnwys pennill o'r rhigwm enwog 'Heno, Heno, Hen Blant Bach', ochr yn ochr â dau blentyn bach, sy'n cysgu'n sownd yn eu gwely. Anrheg chwaethus a hyfryd i bob plentyn bach.
Mwy o wybodaeth
Jig-so gwreiddiol wedi'i ddylunio gan yr arlunydd Lizzie Spikes o Geredigion.
Mae'r jig-so yn cynnwys pennill o'r rhigwm poblogaidd 'Mynd drot, drot ar y gaseg wen...', ochr yn ochr â darlun Lizzie, sy'n dod â'r geiriau yn fyw. Anrheg hyfryd a i blant.
Rhan o gyfres Jig-sos Rhigymau gan Lizzie Spikes.
Mwy o wybodaeth