Wyt ti eisiau help gyda gwerthfawrogi barddoniaeth?
Wel, dyma’r llyfr i ti, felly, achos mae’n cynnwys:
• help ar gyfer gwerthfawrogi barddoniaeth ac ysgrifennu gwerthfawrogiad
• ymarferion
• syniadau am ble i gael mwy o wybodaeth.
Bydd y llyfr o help i ti os wyt ti’n dilyn cwrs Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch, neu’n wir os wyt ti eisiau mwy o wybodaeth am werthfawrogi barddoniaeth.
Mae’n bosib defnyddio’r llyfr ar dy ben dy hun – neu mewn dosbarth.
Pob hwyl i ti gyda’r Gymraeg!
Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2007.