Un mewn cyfres o 6 llyfr ffeithiol a chyfoes ar gyfer disgyblion 10 i 14 oed. Cyfres sy'n cyflwyno ffeithiau mewn ffordd anffurfiol, darllenadwy a difyr.
Mae'r llyfr hwn yn canolbwyntio ar unigolion sy'n mentro mewn ffyrdd gwahanol; penderfyniadau mentrus, campau mentrus a mwy! Mae'r gyfres yn ffocysu ar themu amrywiol o ddiddordeb I bobl ifanc megis y we a thechnoleg digidol, yr amgylchedd, anifeiliaid mewn perygl, pwyso a mesur ac enwogrwydd.
Mwy o wybodaeth
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!