Datblygwyd y pecyn hwn i gefnogi dysgu sgiliau Daearyddol yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r pecyn yn cynnwys pedwar llyfr sy'n canolbwyntio ar bedwar lleoliad gwahanol; Botswana, Patagonia, Gwlad yr Ia, a Pharis. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys DVD o adnoddau ychwanegol a llawlyfr i athrawon. Nod y pecyn yw; Datblygu ymwybyddiaeth a synnwyr plant o le. Datblygu sgiliau daearyddol. Hybu sgiliau ymholi a meddwl. Hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang a chefnogi Dysgu Annibynnol.
Mwy o wybodaeth