Nodiadau adolygu gan yr Athro Gwyn Thomas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch; llawlyfr adolygu perffaith cyfle i ddod yn gyfarwydd gyda rhai o dermau astudio llen llafar a llen gwerin.
Dyma astudiaeth gynhwysfawr o'r themu, astudiaeth o'r cymeriadau ar gyfer astudio'r chwedlau, gwybodaeth ffeithiol a dadansoddiad treiddgar gan arbenigwr yn y maes.
Mwy o wybodaeth
Cyfrol addas ar gyfer astudio cwrs Economeg Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol. Mae'r gyfrol hylaw hon wedi'i rhannu'n unedau hwylus gyda phob uned yn rhoi sylw penodol i bwnc neu faes arbennig. Addasiad Cymraeg o Economics - Fourth Edition gan Alain Anderton
Mwy o wybodaeth
Gwerslyfr addas ar gyfer astudio cwrs Economeg Safon Uwch yn ogystal ag Astudiaethau Busnes Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a chyrsiau proffesiynol cysylltiol.
Mae'r gyfrol hylaw hon wedi'i rhannu'n unedau hwylus gyda phob uned yn rhoi sylw penodol i bwnc neu faes arbennig.
Mwy o wybodaeth
Drama bwerus am effaith rhyfel.
Mae'n ddiwedd 2014, yn dilyn ymadawiad terfynol byddinoedd Ei Mawrhydi o dalaith Helmand, Afghanistan. Daw tri cyn-filwr at ei gilydd i hel atgofion, ond o dipyn i beth fe ddaw hi'n amlwg na fydd pethau byth yr un fath eto.
Mwy o wybodaeth
Cyhoeddiad o sgript drama wreiddiol Dewi Wyn Williams, ar gyfer taith Theatr Bara Caws, Tachwedd - Rhagfyr 2015.
Drama newydd a heriol am Salwch Meddwl gan enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014.
Mae'r drama'n digwydd ym mhen Oswald Pritchard. Mae Os wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fod Peter a'i seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynnol wrth iddo bendilio o un emosiwn i'r llall gan gynnig syniadau bachog a difyr am y byd a'i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.
Mwy o wybodaeth
Llyfr adolygu sy'n ymdrin a chynnwys manylebau CBAC, AQA, Edexcel ac OCR ar gyfer Economeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.
Mae'r cynnwys wedi'i rannu'n adrannau hwylus, gyda rhan gyntaf y llyfr yn ymdrin micro-economeg a'r ail ran yn ymdrin a macro-economeg. Arddull cyflwyno syml, gan ddefnyddio diagramau i gynorthwyo adolygu lle bo'n briodol. Mae cwestiynau adolygu ar gyfer pob adran o'r llyfr.
Llyfr gan Andrew Gillespie, addasiad Cymraeg gan Colin Isaac.
Mwy o wybodaeth