COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Addysgol

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 21

  1. Siwan a Cherddi Eraill

    Siwan a Cherddi Eraill

    Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!


    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  3. Daearyddiaeth TGAU: Gwaith Maes - datblygu sgiliau ymchwilio

    Daearyddiaeth TGAU: Gwaith Maes - datblygu sgiliau ymchwilio

    Matiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Ffocws penodol ar gyfer meithrin sgiliau gwaith maes. Cyfle ar gyfer gwaith fesul dau neu gwaith grŵp yn ogystal â meithrin cydweithio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.

    www.gcsegeography.cymru

    Mwy o wybodaeth
    £14.95

  4. GCSE Geography: Fieldwork - developing enquiry skills

    GCSE Geography: Fieldwork - developing enquiry skills

    Geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography. Designed to cover the most frequently developed topic areas in GCSE Geography. The materials are designed for collaborative and group work.

    www.gcsegeography.cymru

    Geographical Association Publishers' Award 2018 - Silver Category Award Winner

    Mwy o wybodaeth
    £14.95

  5. Daearyddiaeth TGAU: Pecyn Gwaith Maes

    Daearyddiaeth TGAU: Pecyn Gwaith Maes

    Pecyn dwyieithog o fatiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.

    A bilingual pack of geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography.

    www.gcsegeography.cymru

    Mwy o wybodaeth
    £24.99

  6. Llinyn Trons - Llyfr Adolygu TGAU

    Llinyn Trons - Llyfr Adolygu TGAU

    Nodiadau adolygu gan Owain Sion Williams ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r llyfr Llinyn Trons gan Bethan Gwanas, fel llyfr gosod TGAU.

    Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, a chymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.

    Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  7. Llyfr Adolygu Dylunio a Thechnoleg TGAU: Defnyddiau Gwrthiannol.

    Llyfr Adolygu Dylunio a Thechnoleg TGAU: Defnyddiau Gwrthiannol.

    Addasiad Cymraeg o lyfr adolygu darluniadol lliw i gynorthwyo disgyblion sy'n paratoi ar gyfer arholiad TGAU Dylunio a Thechnoleg. Mwy o wybodaeth
    £4.50

  8. Seren Iaith 2 - Llawlyfr Adolygu Cywiro Iaith

    Seren Iaith 2 - Llawlyfr Adolygu Cywiro Iaith

    Casgliad o dros 200 o ymarferion i'ch cynorthwyo i ddefnyddio Cymraeg yn llwyddiannus.

    Llyfr hanfodol i brofi eich gallu i ysgrifennu Cymraeg yn gywir. Addas ar gyfer TGAU, UG, Lefel A, addysg bellach ac oedolion.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Y Stafell Ddirgel - Llyfr adolygu TGAU

    Y Stafell Ddirgel - Llyfr adolygu TGAU

    Nodiadau adolygu gan Tudur Dylan Jones ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames fel llyfr gosod TGAU.

    Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir - crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio a dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, cymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.

    Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Help Llaw gydag astudio I Ble'r Aeth Haul y Bore?

    Help Llaw gydag astudio I Ble'r Aeth Haul y Bore?

    Nodiadau adolygu ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn fel llyfr gosod TGAU.

    Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir - crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, cymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.

    Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 21