Nodiadau adolygu gan Sioned Mair Jones ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Bachgen yn y Môr gan Morris Gleitzman (addasiad Elin Meek) fel llyfr gosod TGAU.
Mewn un llyfr hwylus ceir; crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, cymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.
Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.
Mwy o wybodaeth
Nodiadau adolygu gan Menna Baines ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r llyfr Yn y Gwaed gan Geraint V.Jones fel llyfr gosod TGAU.
Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol a chymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.
Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.
Mwy o wybodaeth
Llyfr adolygu'r nofel Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis, ar gyfer y disgyblion sy'n astudio'r lyfr fel llyfr gosod ar gyfer yr arholiad Cymraeg.
Paratowyd y nodiadau gan Bleddyn Owen Huws o Brifysgol Aberystwyth ac mae'n cynnwys nodiadau ar y plot, cynllun, cymeriadau, themau, arddull a chrefft, trafod arwyddocad digwyddiadau, cymeriadaeth, perthynas pobl gyda'i gilydd, darlun o'r gymdeithas a'r cyfnod a chrynodeb o gynnwys pob pennod a geirfa.
Mwy o wybodaeth
Matiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Ffocws penodol ar gyfer meithrin sgiliau gwaith maes. Cyfle ar gyfer gwaith fesul dau neu gwaith grŵp yn ogystal â meithrin cydweithio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.
Mwy o wybodaeth
Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).
Mwy o wybodaeth
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!