Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!
Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).
Mwy o wybodaeth
Matiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Ffocws penodol ar gyfer meithrin sgiliau gwaith maes. Cyfle ar gyfer gwaith fesul dau neu gwaith grŵp yn ogystal â meithrin cydweithio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.
Mwy o wybodaeth
Nodiadau adolygu gan Menna Baines ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r llyfr Yn y Gwaed gan Geraint V.Jones fel llyfr gosod TGAU.
Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol a chymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.
Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.
Mwy o wybodaeth
Llyfr adolygu'r nofel Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis, ar gyfer y disgyblion sy'n astudio'r lyfr fel llyfr gosod ar gyfer yr arholiad Cymraeg.
Paratowyd y nodiadau gan Bleddyn Owen Huws o Brifysgol Aberystwyth ac mae'n cynnwys nodiadau ar y plot, cynllun, cymeriadau, themau, arddull a chrefft, trafod arwyddocad digwyddiadau, cymeriadaeth, perthynas pobl gyda'i gilydd, darlun o'r gymdeithas a'r cyfnod a chrynodeb o gynnwys pob pennod a geirfa.
Mwy o wybodaeth
Nodiadau adolygu gan Owain Sion Williams ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r llyfr Llinyn Trons gan Bethan Gwanas, fel llyfr gosod TGAU.
Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, a chymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.
Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.
Mwy o wybodaeth