Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).
Mwy o wybodaeth
Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!
Matiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Ffocws penodol ar gyfer meithrin sgiliau gwaith maes. Cyfle ar gyfer gwaith fesul dau neu gwaith grŵp yn ogystal â meithrin cydweithio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.
Mwy o wybodaeth
Geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography. Designed to cover the most frequently developed topic areas in GCSE Geography. The materials are designed for collaborative and group work.
Geographical Association Publishers' Award 2018 - Silver Category Award Winner
Mwy o wybodaeth
Pecyn dwyieithog o fatiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.
A bilingual pack of geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography.
Mwy o wybodaeth
Nodiadau adolygu gan Owain Sion Williams ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r llyfr Llinyn Trons gan Bethan Gwanas, fel llyfr gosod TGAU.
Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, a chymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.
Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.
Mwy o wybodaeth
Casgliad o dros 200 o ymarferion i'ch cynorthwyo i ddefnyddio Cymraeg yn llwyddiannus.
Llyfr hanfodol i brofi eich gallu i ysgrifennu Cymraeg yn gywir. Addas ar gyfer TGAU, UG, Lefel A, addysg bellach ac oedolion.
Mwy o wybodaeth
Nodiadau adolygu gan Tudur Dylan Jones ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames fel llyfr gosod TGAU.
Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir - crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio a dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, cymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.
Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.
Mwy o wybodaeth