COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Addysgol

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 20

  1. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  2. Gemau’r Parot Piws: Bocs 5

    Gemau’r Parot Piws: Bocs 5

    GEMAU IAITH a SGILIAU MEDDWL

    Meysydd Dysgu a Phrofiad

    Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
    Mathemateg a Rhifedd

    Siopa

    gwella sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a chyfathrebu
    gwella sgiliau sylfaenol mewn rhifedd o fewn cyd-destun trin arian
    hyrwyddo a datblygu sgiliau arsylwi a sgiliau meddwl
    hyrwyddo sgiliau personol a chymdeithasol
    addas ar gyfer plant sydd am feithrin eu sgiliau sylfaenol mewn awyrgylch anffurfiol
    mae hyd at bedwar tîm o ddau yn gallu chwarae’r gêm
    dwy lefel wahanol gydag un lefel yn cynnwys cardiau elusen a chynilo

    Trio, Trio, Trio

    gêm sy’n helpu i feithrin a datblygu iaith gynnar
    addas ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn y Gymraeg
    gêm sy’n cynnig cyfle i blant ymarfer eu geiriau cyntaf yn y Gymraeg
    tair set o gardiau lliw petryal gyda 52 cerdyn ymhob set
    addas ar gyfer pedwar chwaraewr
    addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddyn nhw
    addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn ail iaith iddyn nhw
    pawb sydd angen help gyda darllen

    Odl! Odl!

    gêm gardiau hwyliog i feithrin a datblygu iaith, sgiliau cyd-ddarllen a sgiliau arsylwi a chanolbwyntio.
    addas ar gyfer 1-4 o chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith.

    Mwy o wybodaeth
    £23.98

  3. Cyfres FfeithIAU! Anifeiliaid: Canllawiau Athrawon - Darllen ac Ysgrifennu Testun Ffeithiol

    Cyfres FfeithIAU! Anifeiliaid: Canllawiau Athrawon - Darllen ac Ysgrifennu Testun Ffeithiol

    Rhan o Becyn Cychwynnol FfeithIAU Anifeiliaid ar gyfer oedran darllen 6-8. Mwy o wybodaeth
    £15.00

  4. Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Llyfr sy'n cynnwys dros 100 o ryseitiau blasus sy'n hawdd eu dilyn.

    Mae'n cynnig cyngor ar sut i goginio hen ffefrynnau neu bryd gwahanol.Ceir gwybodaeth ar faetheg yn ogystal a ffeithiau diddorol.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Llythrennedd Thematig - Yr Ynys - Pecyn Cardiau a DVD

    Llythrennedd Thematig - Yr Ynys - Pecyn Cardiau a DVD

    Un o gyfres o dri phecyn o weithgareddau thematig ar gyfer disgyblion 7-9 oed yn bennaf. Mae'r Cardiau Disgybl a'r DVD rhyngweithiol yn cynnwys adnoddau disgybl, deunydd asesu, cronfa luniau,clipiau fideo a gem lythrennedd ryngweithiol. Adnodd gwych i hybu sgiliau llythrennedd. Mwy o wybodaeth
    £20.00

  6. Gemau'r Parot Piws: Bocs 4

    Gemau'r Parot Piws: Bocs 4

    Bocs sy'n cynnwys tair gêm sy'n helpu i feithrin a datblygu iaith a sgiliau meddwl. Trac, Harri Hapus ac Odl! Odl! Addas ar gyfer chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
    £22.00

  7. Gemau'r Parot Piws: Bocs 3

    Gemau'r Parot Piws: Bocs 3

    Pecyn sy'n cynnwys 4 gêm sy'n helpu i feithrin a datblygu iaith a sgiliau meddwl. Pacio'r Ces, Taro Deuddeg, Anifeiliaid: Be sy'n perthyn? a Holi Poli. Addas ar gyfer chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith. Mwy o wybodaeth
    £18.00

  8. Cyfres Ffeithiau! Anifeiliaid: Adar

    Cyfres Ffeithiau! Anifeiliaid: Adar

    Addasiad Cymraeg o lyfryn addysgiadol darluniadol lliw yn cyflwyno gwybodaeth werthfawr ac ystadegau diddorol am adar amrywiol, eu nodweddion a'u bwyd, eu harferion a'u cynefinoedd; i ddarllenwyr CA2. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  9. Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Planhigion

    Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Planhigion

    Addasiad Cymraeg o lyfr addysgiadol darluniadol lliw yn cyflwyno gwybodaeth werthfawr a ffeithiau diddorol am blanhigion amrywiol, eu nodweddion, eu golwg, a'u cynefinoedd; i ddarllenwyr CA2. Cyfrol yn y Gyfres Ffeithiau. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  10. Pecyn Thematig Llythrennedd: Pen a Chynffon - Cardiau a DVD

    Pecyn Thematig Llythrennedd: Pen a Chynffon - Cardiau a DVD

    Un o gyfres o dri phecyn o weithgareddau llythrennedd thematig ar gyfer disgyblion 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £20.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 20