COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Addysgol

Set Descending Direction

Grid List

10 Eitem

  1. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  2. Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Llyfr sy'n cynnwys dros 100 o ryseitiau blasus sy'n hawdd eu dilyn.

    Mae'n cynnig cyngor ar sut i goginio hen ffefrynnau neu bryd gwahanol.Ceir gwybodaeth ar faetheg yn ogystal a ffeithiau diddorol.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

    Out of stock

  3. Cyfres Ffeithiau! Anifeiliaid: Adar

    Cyfres Ffeithiau! Anifeiliaid: Adar

    Addasiad Cymraeg o lyfryn addysgiadol darluniadol lliw yn cyflwyno gwybodaeth werthfawr ac ystadegau diddorol am adar amrywiol, eu nodweddion a'u bwyd, eu harferion a'u cynefinoedd; i ddarllenwyr CA2. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  4. Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Planhigion

    Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Planhigion

    Addasiad Cymraeg o lyfr addysgiadol darluniadol lliw yn cyflwyno gwybodaeth werthfawr a ffeithiau diddorol am blanhigion amrywiol, eu nodweddion, eu golwg, a'u cynefinoedd; i ddarllenwyr CA2. Cyfrol yn y Gyfres Ffeithiau. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  5. Geiriadur Lluniau i Blant

    Geiriadur Lluniau i Blant

    Geiriadur sy'n cyflwyno pump iaith i'r plentyn; Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.

    Wrth ddefnyddio lluniau fel sbardun, mae'r llyfr yn defnyddio cof gweledol y plentyn i addysgu'r ieithoedd mewn ffordd syml ac effeithiol. Mae'r tudalennau yn ymwneud â themau defnyddiol megis y teulu, bwyd, yr ysgol ac ati er mwyn sicrhau bod y plentyn yn dysgu geiriau defnyddiol.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Llyfr y Corff

    Llyfr y Corff

    Mae'r corff yn rhyfeddol - ond er mwyn deall pam, rhaid ichi edrych ar y tu mewn i'r corff. Mae'r gyfrol yn dadlennu beth sy'n mynd ymlaen o dan y croen, a sut mae'r corff yn gweithio - yr ymennydd, y llygad, y galon, y system dreulio, a llawer mwy. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Cyfres Ffeithiau! Trychfilod

    Cyfres Ffeithiau! Trychfilod

    Llyfr ffeithiol a lliwgar sy'n cyflwyno gwybodaeth werthfawr ac ystadegau diddorol am drychfilod amrywiol, eu nodweddion a'u bwyd, eu harferion a'u cynefinoedd. Addas ar gyfer darllenwyr CA2. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  8. Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Blodau

    Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Blodau

    Addasiad Cymraeg o lyfr addysgiadol darluniadol lliw sy'n cyflwyno gwybodaeth werthfawr a ffeithiau diddorol am flodau amrywiol, eu nodweddion, golwg, peillio a'u cynefinoedd. Addas ar gyfer darllenwyr CA2 a disgyblion gydag Anghenion Addysgol Arbennig. Cyfrol yn y Gyfres Ffeithiau. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  9. Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Coed

    Cyfres Ffeithiau! Planhigion: Coed

    Addasiad Cymraeg o lyfr addysgiadol darluniadol lliw sy'n cyflwyno gwybodaeth gwerthfawr a ffeithiau diddorol am goed amrywiol, eu nodweddion, eu golwg, patrymau byw, a'u cynefinoedd. Addas ar gyfer darllenwyr CA2 a disgyblion gydag Anghenion Addysgol Arbennig. Cyfrol yn y Gyfres Ffeithiau. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  10. Cyfres Ffeithiau: Planhigion fel Bwyd

    Cyfres Ffeithiau: Planhigion fel Bwyd

    Addasiad Cymraeg o lyfr addysgiadol darluniadol lliwgar sy'n cyflwyno gwybodaeth werthfawr a ffeithiau diddorol am blanhigion fel bwyd, eu rhinweddau, patrymau byw, a'u cynefinoedd. Addas ar gyfer disgyblion CA2 a disgyblion gyda Anghenion Addysgol Arbennig. Cyfrol yn y Gyfres Ffeithiau. Mwy o wybodaeth
    £3.99

Set Descending Direction

Grid List

10 Eitem