Llyfr i gefnogi plant gyda'u gwaith ysgol, i fagu hyder ynddynt ac i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o sgiliau sylfaenol Rhifedd, yn arbennig elfennau Adio a Thynnu ar gyfer plant cynradd. Cynhwysir sticeri i'w gludo sy'n helpu'r plentyn i feithrin sgiliau adnabod a deall, ac mae is-destun Saesneg yn galluogi rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant.
Gair o eglurhad!
Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.
Regular Price: £3.99
Pris Arbennig £2.99
Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.
Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.
Cyfarwyddiadau dwyieithog.
Mwy o wybodaeth