COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Addysgol

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 37

  1. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!


    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  2. Posau Bach

    Posau Bach

    Casgliad gwerthfawr o weithgareddau a phosau Mathemateg ar gyfer plant 6-11 oed yn bennaf.

    Llyfr dwyieithog y gellir ei lungopïo a'i ddefnyddio yn yr ysgol dan arweiniad athro neu yn y cartref gyda rhiant/gwarchodwr. Mae'r gweithgareddau yn gyfle i blant arbrofi gyda syniadau mathemategol newydd.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  3. Ymlusgiaid

    Ymlusgiaid

    Cyfle i chi fwynhau darllen ffeithiau newydd a rhyfeddu ar luniau trawiadol o fyd yr ymlusgiaid. Maen nhw'n greaduriaid rhyfeddol! Mae'r cobra mawr yn gallu sefyll ei dir ac edrych i fyw eich llygaid heb symud dim! A beth am y crocodeil wedyn sydd â brathiad sy'n gallu rhwygo corff mewn eiliadau! Arswydus!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Bygs

    Bygs

    Cyfle i ddysgu am gannoedd o drychfilod difyr. Gyda darluniau a ffeithiau difyr, bydd plant wrth eu bodd yn dianc i fyd y chwilen, gwas y neidr, y neidr gantroed a sawl un arall! Mae'r llyfr hefyd yn dysgu plant sut i ddiogelu a gwarchod trychfilod. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  5. Help gyda Gwaith Cartref: Gwyddoniaeth ...y pethau pwysig

    Help gyda Gwaith Cartref: Gwyddoniaeth ...y pethau pwysig

    Llyfr gwaith Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion oedran 9+. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  6. Help gyda Gwaith Cartref: Gwyddoniaeth - y llyfr adolygu 9+

    Help gyda Gwaith Cartref: Gwyddoniaeth - y llyfr adolygu 9+

    Llyfr adolygu Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion oedran 9+. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  7. Help gyda Gwaith Cartref: Mathemateg Pen

    Help gyda Gwaith Cartref: Mathemateg Pen

    Llyfr i gefnogi plant cynradd gyda'u dealltwriaeth o elfennau mathemateg pen.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £3.99

    Pris Arbennig £2.99

  8. Cyfres Stori Fawr: Cris Croes

    Cyfres Stori Fawr: Cris Croes

    Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa ar gefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

    Mae Cris Croes yn hoffi bod yn wahanol. Mae o'n bwyta'n wahanol ac mae o'n gwisgo'n wahanol. Un diwrnod, mae Cris Croes yn mynd allan ar y beic ac mae'r dillad gwahanol yn help mawr i'r heddlu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  9. Cyfres Stori Fawr: Yr Hen Dŷ

    Cyfres Stori Fawr: Yr Hen Dŷ

    Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa yng nghefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

    Un diwrnod, mae Gwen ac Ifan yn mynd i'r hen dŷ sbwci yn Stryd y Coed. Mae rhywbeth yn cuddio yno ...

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  10. Spark Series: Amazing Adventurers

    Spark Series: Amazing Adventurers

    Llyfr i danio dychymyg darllenwyr o bob oed drwy gyflwyno ffeithiau am 5 o anturwyr cyfoes Cymru. Mwy o wybodaeth
    £4.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 37