COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Addysgol

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 30

  1. Datrys Problemau ... dechrau da! 1

    Datrys Problemau ... dechrau da! 1

    Pecyn newydd i gefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol.

    Nod Datrys Problemau .… dechrau da! ydy cefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol. Dyma becyn sy’n gosod y plentyn yn y canol ac sy’n gosod pwyslais ar gynnig ramweithiau pwrpasol i’r addysgu a’r dysgu.

    Mae Datrys Problemau .… dechrau da! yn hybu’r sgiliau sylfaenol a fydd hefyd yn galluogi’r plentyn i lwyddo ac ennill boddhad o’u profiad ym maes mathemateg.

    Mwy o wybodaeth
    £34.99

  2. BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llawlyfr Myfyrwyr Llyfr 1

    BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llawlyfr Myfyrwyr Llyfr 1

    Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Student Book 1 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC y Dystysgrif, y Dystysgrif Estynedig, y Diploma Sylfaenol a’r Diploma Estynedig. Mae’r llyfr yn cefnogi’r myfyrwyr drwy’r holl unedau gorfodol ac ystod o’r unedau dewisol, yn eu plith: Anatomeg a Ffisioleg; Iechyd, Chwaraeon a Lles; Seicoleg Chwaraeon; Datblygiad Proffesiynol mewn Chwaraeon. Mae’r llawlyfr gwreiddiol wedi ei ysgrifennu gan dîm o awduron arbenigol, yn cynnwys athrawon BTEC a gweithwyr chwaraeon proffesiynol.

    Mwy o wybodaeth
    £25.00

  3. BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llawlyfr Myfyrwyr Llyfr 2

    BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llawlyfr Myfyrwyr Llyfr 2

    Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Student Book 2 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC y Diploma Sylfaenol a’r Diploma Estynedig. Mae’r llyfr yn cefnogi’r myfyrwyr drwy’r holl unedau gorfodol ac ystod o’r unedau dewisol, yn eu plith: Dulliau Ymchwil ym maes Chwaraeon; Hunangyflogaeth yn y Diwydiant Chwaraeon; Rheoli Anafiadau Chwaraeon; Trefnu Digwyddiad Chwaraeon. Mae’r llawlyfr gwreiddiol wedi ei ysgrifennu gan dîm o awduron arbenigol, yn cynnwys athrawon BTEC a gweithwyr chwaraeon proffesiynol.

    Mwy o wybodaeth
    £25.00

  4. Gemau’r Parot Piws: Bocs 5

    Gemau’r Parot Piws: Bocs 5

    GEMAU IAITH a SGILIAU MEDDWL

    Meysydd Dysgu a Phrofiad

    Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
    Mathemateg a Rhifedd

    Siopa

    gwella sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a chyfathrebu
    gwella sgiliau sylfaenol mewn rhifedd o fewn cyd-destun trin arian
    hyrwyddo a datblygu sgiliau arsylwi a sgiliau meddwl
    hyrwyddo sgiliau personol a chymdeithasol
    addas ar gyfer plant sydd am feithrin eu sgiliau sylfaenol mewn awyrgylch anffurfiol
    mae hyd at bedwar tîm o ddau yn gallu chwarae’r gêm
    dwy lefel wahanol gydag un lefel yn cynnwys cardiau elusen a chynilo

    Trio, Trio, Trio

    gêm sy’n helpu i feithrin a datblygu iaith gynnar
    addas ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn y Gymraeg
    gêm sy’n cynnig cyfle i blant ymarfer eu geiriau cyntaf yn y Gymraeg
    tair set o gardiau lliw petryal gyda 52 cerdyn ymhob set
    addas ar gyfer pedwar chwaraewr
    addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddyn nhw
    addas ar gyfer y rhai sydd â’r Gymraeg yn ail iaith iddyn nhw
    pawb sydd angen help gyda darllen

    Odl! Odl!

    gêm gardiau hwyliog i feithrin a datblygu iaith, sgiliau cyd-ddarllen a sgiliau arsylwi a chanolbwyntio.
    addas ar gyfer 1-4 o chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith.

    Mwy o wybodaeth
    £23.98

  5. Datrys Problemau ... dechrau da! 2

    Datrys Problemau ... dechrau da! 2

    Pecyn newydd i gefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol

    Nod Datrys Problemau... Dechrau Da! ydy cefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol. Dyma becyn sy’n gosod y plentyn yn y canol ac sy’n gosod pwyslais ar gynnig ramweithiau pwrpasol i’r addysgu a’r dysgu.

    Mae Datrys Problemau... Dechrau Da! yn hybu’r sgiliau sylfaenol a fydd hefyd yn galluogi’r plentyn i lwyddo ac ennill boddhad o’u profiad ym maes mathemateg.

    Mwy o wybodaeth
    £34.99

  6. Daearyddiaeth TGAU: Pecyn Gwaith Maes

    Daearyddiaeth TGAU: Pecyn Gwaith Maes

    Pecyn dwyieithog o fatiau daearyddol ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 i gefnogi sgiliau cyffredinol ymholi ac ymchwilio. Cyfres o fatiau daearyddol fydd yn sefydlu dulliau ymarferol a phwrpasol ar gyfer cynnal gwaith maes.

    A bilingual pack of geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography.

    www.gcsegeography.cymru

    Mwy o wybodaeth
    £24.99

  7. Pecyn Cyfres Mynydd Troed

    Pecyn Cyfres Mynydd Troed

    Cyfres o bump llyfr stori dwyieithog wedi'u cynllunio'n ofalus i hybu sgiliau llythrennedd.

    Mae'r pecyn yn cynnwys: Cwtsh, Paid â Phoeni, Y Cerrig Hud, Dyma Fi, Dyma Fi! a Mili'r Mircat.

    Mwy o wybodaeth
    £26.95

  8. Seicoleg Uwch Gyfrannol - Y Cydymaith Cyflawn

    Seicoleg Uwch Gyfrannol - Y Cydymaith Cyflawn

    Cyfrol i hybu gwell dealltwriaeth o'r pwnc yn ogystal â gwella perfformiad yr ymgeisydd yn yr arholiad. Mwy o wybodaeth
    £21.99

  9. Llythrennedd Thematig: Byd Nad Yw'n Bod - Pecyn Cardiau a DVD

    Llythrennedd Thematig: Byd Nad Yw'n Bod - Pecyn Cardiau a DVD

    Un o gyfres o dri phecyn o weithgareddau thematig ar gyfer disgyblion 7-9 oed yn bennaf. Mae'r pecyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy'n amrywio o fyd ffantasi a chwedloniaeth i fyd hanes a ffaith. Mae'r pecyn yn cynnwys Adnoddau Disgybl a deunyddiau asesu ar ffurf cardiau wedi'u lamineiddio yn ogystal â DVD rhyngweithiol. Mwy o wybodaeth
    £20.00

  10. Llythrennedd Thematig - Yr Ynys - Pecyn Cardiau a DVD

    Llythrennedd Thematig - Yr Ynys - Pecyn Cardiau a DVD

    Un o gyfres o dri phecyn o weithgareddau thematig ar gyfer disgyblion 7-9 oed yn bennaf. Mae'r Cardiau Disgybl a'r DVD rhyngweithiol yn cynnwys adnoddau disgybl, deunydd asesu, cronfa luniau,clipiau fideo a gem lythrennedd ryngweithiol. Adnodd gwych i hybu sgiliau llythrennedd. Mwy o wybodaeth
    £20.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 30