COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 13

  1. Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Mae cyfres Chwedlau’r Copa Coch yn parhau, ac ar ôl trechu bwystfil hunllefus yn Yr Horwth, mae arwyr y Copa Coch bellach yn wynebu perygl llawer mwy. Y melltith yn y mynydd... Mae blwyddyn wedi pasio. Wrth i Sara, Pietro, Heti a Nad wneud eu gorau i ymgartrefu ar lethrau'r Copa Coch, mae'r ysbrydion maleisus sy'n llechu yng nghrombil y mynydd yn dianc o'u cartref tywyll a bygwth y pentref newydd. Dim ond un peth sydd i'w wneud: mentro i'r crombil mewn ymgais orffwyll i ddifa’r ysbrydion, unwaith ac am byth. Yn fuan iawn mae’r criw yn cael eu gwahanu – Pietro yn cael ei feddiannu gan ysbryd milwr o’r gorffennol pell; Sara a Nad yn cychwyn ar daith i’w achub drwy’r ddinas danddaearol o dan y mynydd; a Heti, yn ei thro, yn dilyn yn eu holion traed hwythau, yng nghwmni cantores o wlad bell... a’r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r mynydd. A thra bod ei gyfeillion yn gwneud eu gorau i’w achub, mae Pietro yn ailfyw brwydr dyngedfennol gafodd ei hymladd ar y mynydd fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn cyfarfod arwyr a dihirod wedi hen farw, ac yn dod i ddysgu bod y Copa Coch yn llawer pwysicach nac oedd neb wedi ei sylweddoli... • Nofel ffantasi i bobl ifanc • Parhau â'r stori epig a llawn hiwmor gafodd ei chychwyn yn Yr Horwth • Perffaith i'r rheiny sy’n hoff o antur, brwydrau, ysbrydion, perygl, a chrancod mawr bwystfilaidd. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Dad Drwg

    Dad Drwg

    Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.

    Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

    Out of stock

  3. Llestri'r Dylluan

    Llestri'r Dylluan

    Addasaid Cymraeg gan Bethan Gwanas o nofel ffantasi arloesol i bobl ifanc gan Alan Garner. Stori arswyd grefftus, sy'n dilyn trywydd tri o bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i ail-greu chwedl Blodeuwedd.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Plant Gwaetha'r Byd

    Plant Gwaetha'r Byd

    Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o The World's Worst Children gan David Walliams. Agorwch y llyfr afiach hwn i glywed hanesion pump o ferched ofnadwy a phump o fechgyn boncyrs! Daw'r gyfrol yma o straeon byrion digri gan David Walliams, un o nofelwyr plant mwyaf poblogaidd y byd, a Tony Ross, arlunydd byd-enwog. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    “Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio.”

     Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.

     Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.

     Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.

    "Y cyntaf mewn cyfres o lyfrau ffantasi wedi’u hanelu at bobol ifanc, mae’r llyfr hwn yn cyfuno cynnwrf, antur a hiwmor a bydd yn anodd rhoi’r llyfr I lawr o’r frawddeg gyntaf. Mae’r darluniau yn rhan yr un mor bwysig o’r stori â’r testun."

    WELSH BOOKS FOR YOUNG PEOPLE – THE BEST OF 2019
    Wales Arts Review

    Dyma'r Horwth yn cael sylw yn narllediad Heno S4C yn 'Sioe Diwrnod y Llyfr'!


    Gwrandewch ar ragflas o'r llyfr isod:

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Pecyn David Walliams i blant hŷn

    Pecyn David Walliams i blant hŷn

    Pecyn yn cynnwys Deintydd Dieflig, Mr Ffiaidd a Cyfrinach Nana Crwca, addasiadau o lyfrau poblogaidd David Walliams. Mwy o wybodaeth
    £17.99

  7. Ben Bril a'r Ninja yn y Ddinas

    Ben Bril a'r Ninja yn y Ddinas

    Rhan o gyfres o lyfrau darllen ar ffurf comig.

    Bachgen 14 oed yw Ben Bril ac mae ei fryd ar achub y byd! Llyfr stori llawn antur.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Ben Bril a'r Ddinas Ddirgel

    Ben Bril a'r Ddinas Ddirgel

    Rhan o gyfres o lyfrau darllen ar ffurf comig.

    Bachgen 14 oed yw Ben Bril ac mae ei fryd ar achub y byd! Llyfr stori llawn antur.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  9. Cyfres Ben Bril

    Cyfres Ben Bril

    Cyfres o lyfrau stori llawn antur ar ffurf comig. Mwy o wybodaeth
    £18.00

  10. Meistres y Bwa Hir

    Meistres y Bwa Hir

    Addasiad Efa Mared Edwards o'r nofel Longbow Girl gan Linda Davies.

    Wedi ei lleoli yn harddwch Bannau Brycheiniog, lle magwyd Linda Davies, mae'r stori yn adrodd hanes Mari Owen, merch ddewr a phenderfynol ac un sy'n giamstar ar ddefnyddio'r bwa hir.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 13