Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!
Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mwy o wybodaeth
Allwch chi ddod o hyd i Mami T.rex yn cuddio tu ôl i'r fflapiau Gwyliwch rhag ofn bydd deinosoriaid bach yn neidio allan!
Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!
Mwy o wybodaeth
Allwch chi ddod o hyd i Sgodyn Streipiog a'i ffrindiau'n cuddio tu ôl i'r fflapiau? Gwyliwch rhag ofn iddyn nhw neidio allan!
Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!
Mwy o wybodaeth
** Testun Saesneg ar gael yng nghefn y llyfr **
Cyfrol annwyl a theimladwy cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am y rhyfeddodau sydd ar gael i’w profi. Digwydd hyn trwy ddefnyddio’r pum synnwyr fel modd o ddangos yr ystod o brofiadau sydd i’w cael ynghanol byd natur.
Elfennau cyfarwydd i blant Cymru sydd yma (plant y wlad a’r ddinas hefyd) - pethau fel teimlo dail yr hydref dan draed, arogli rhosod a blasu mwyar duon. Mae’r delweddau sensitif o anifeiliaid y môr, y tir a’r awyr yn rhai annwyl a hoffus ac at chwaeth plant ifanc.
Egyr y llyfr gyda sbloets o liw wrth i ni weld yr haul yn gwawrio. Erbyn y dudalen olaf, mae’r lliwiau wedi pylu wrth iddi nosi ar derfyn y dydd.
Mae tyrau'r ddinas uchel yn tyfu'n uwch ac yn uwch bob dydd. Mae pawb yn gweithio ddydd a nos i adeiladu'r tŵr uchaf un. Pawb ond Petra.
Argraffiad dwyieithog o'n llyfr poblogaidd, Y Ddinas Uchel