COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 20

  1. Alphaprints - 123

    Alphaprints - 123

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar gyda delweddau trawiadol sydd wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes. Llyfrau stori gyda thestun byr a syml. Yn y llyfr hwn bydd cyfle i'r plant ddysgu cyfri a dod i adnabod y rhifolion. Llyfrau poblogaidd a hardd. Anrheg delfrydol I fabanod a phlant cyn oed ysgol. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Alphaprints - Lliwiau

    Alphaprints - Lliwiau

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar a chyfoes, i blant bach cyn oed ysgol. Gyda delweddau trawiadol wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes a thestun crynno a syml, dyma gyfres sy'n siwr o ysbrydoli diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc. Lliwiau yw ffocws y llyfr hwn, ac mae'r delweddau a'r tudalennau sgleiniog yn ffordd hwyliog ac effeithiol o addysgu'r plant a'u paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae llyfrau Alphaprints yn anrhegion arbennig a defnyddiol i blant bach. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Alphaprints - Ti'n Werth y Byd!

    Alphaprints - Ti'n Werth y Byd!

    Llyfr cyffwrdd a theimlo lliwgar a deniadol sy'n siwr o blesio'r rhai bach. Mae'r llyfr yn rhan o'r gyfres 'Alphaprints', sef cyfres o lyfrau cyffwrdd a theimlo gyda darluniau trawiadol wedi'u creu ag olion bysedd a gwaith graffeg unigryw. Addas i fabanod a phlant 0-4 oed. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. Alphaprint - Cyw a'i ffrindiau

    Alphaprint - Cyw a'i ffrindiau

    Llyfr lliwgar dwyieithog fydd yn siwr o blesio plant bach. Cyfle i ddarllen penillion am yr anifeiliaid unigol tra'n cyffwrdd a theimlo'r darluniau hardd, wedi eu creu gydag olion bysedd! Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Fy Antur i'r Lleuad!

    Fy Antur i'r Lleuad!

    Llyfr stori sy'n sôn am antur i'r lleuad gyda'r darllenydd yn rhan o'r stori!

    Addas i blant y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  6. Mae'n Iawn Bod yn Wahanol

    Mae'n Iawn Bod yn Wahanol

    Llyfr stori dwyieithog cafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin.

    Bwriad 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol' ydy ysbrydoli plant (ac oedolion!) i ddathlu'r gwahaniaethau rhwng un plentyn a'r llall, a thrwy hynny dderbyn pawb fel y maen nhw a meithrin hunanhyder.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  7. Chwarae Gyda Lliwiau

    Chwarae Gyda Lliwiau

    Llyfr bwrdd llawn lluniau lliwgar. Mae cyfle i godi fflapiau ac i gyffwrdd a theimlo gwahanol rannau o'r llyfr wrth ddysgu am liwiau.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Llyfr Clwt: Babi Prysur

    Llyfr Clwt: Babi Prysur

    Llyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal. 

    Gallwch ei olchi yn y peiriant golchi. Llyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.

    *LLYFR CLWT: BABI PRYSUR A LLYFR CLWT: ANIFEILIAID Y FFERM AM £10.00*

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Broga Broga - Llyfr Pyped

    Broga Broga - Llyfr Pyped

    Llyfr stori ddwyieithog sy'n dod yn fyw gyda'r pyped Brog Broga!

    Stori am froga sydd wedi tyfu'n fawr ac sy'n chwilio am gartref newydd. Mae'n darganfod cartref braf gerllaw'r felin wynt, ond mae aderyn brawychus gerllaw. Mae'n darganfod safle braf ar ochr y ffordd, ond mae o'n rhy swnllyd! Tybed a fydd Brog Broga druan yn llwyddo i ganfod cartref cyn diwedd y stori?

    Llyfr pyped sy'n annog plant i ryngweithio ac ymateb, ac sy'n annog diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc iawn.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  10. Llyfr Clwt: Anifeiliaid Bach y Fferm

    Llyfr Clwt: Anifeiliaid Bach y Fferm

    Llyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal. 

    Gallwch ei olchi yn y peiriant golchi. Llyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.

    *LLYFR CLWT: ANIFEILIAID Y FFERM A LLYFR CLWT: BABI PRYSUR AM £10.00*

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 20