COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Ascending Direction

Grid List

21-30 o 39

  1. Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad

    Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad

    Addasiad dwyieithog Gruffudd Antur o 'The First Hippo on the Moon' gan David Walliams.

    Stori llawn hiwmor am ddau hipo gwahanol iawn sy'n rhannu'r un freuddwyd, sef i fod yr hipo cyntaf i gyrraedd y lleuad!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Yr Eliffant Eithaf Digywilydd

    Yr Eliffant Eithaf Digywilydd

    Addasiad dwyieithog Gruffudd Antur o 'The Slightly Annoying Elephant' gan David Walliams.

    Wedi cwblhau ffurflen 'mabwysiadu eliffant', doedd Sam ddim yn disgwyl gweld eliffant go iawn ar garreg y drws, ond wedi iddo ddod i'r tŷ, mae'n un antur anferth ar ôl y llall!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Addasiad dwyieithog gan Eurig Salisbury o 'The Bear who went Boo' gan David Walliams Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Cefin y Coala Carcus

    Cefin y Coala Carcus

    Addasiad Cymraeg gan Eurig Salisbury o 'The Koala Who Could'.

    Dewch i gwrdd â Cefin y coala, sy'n hoffi pethau FEL Y MAEN NHW, heb DDIM NEWID. Ond pan mae pethau'n newid yn ddirybudd un dydd, daw Cefin i ddysgu sut i fwynhau profiadau newydd ac anhygoel. Stori ddoniol ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo pryder wrth wynebu newid.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Bywyd ar y Fferm

    Bywyd ar y Fferm

    Dyma gyfle i chi ddilyn hynt a helynt bywyd ar y fferm drwy gydol y flwyddyn. O dymor y gwanwyn, drwy'r haf a'r hydref i dymor y gaeaf mae'r ffermwr yn brysur wrth ei waith.

    Llyfr gyda 50 fflap llawn o wybodaeth diddorol.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  6. Neidr yn yr Ysgol

    Neidr yn yr Ysgol

    Addasiad Eurig Salisbury o There's a Snake in my School gan David Walliams.

    Mae Mirain y prif gymeriad yn ferch ysgol sy'n hoffi bod yn wahanol. Ar ddiwrnod 'Dewch ag anifail anwes i'r ysgol', mae hi'n penderfynnu dod ag anifail gwahanol iawn gyda hi...

    Llyfr doniol gyda darluniau trawiadol gan yr enwog Tony Ross.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Deg Tywysoges Fach

    Deg Tywysoges Fach

    ** AILARGRAFFU AR HYN O BRYD **

    Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o 'Ten Little Princesses.'

    Stori fywiog ar fydr ac odl sy'n cynnig cyfle i gyfarfod â hoff gymeriadau o fyd chwedlau tylwyth teg, megis Eira Wen, Hugan Fach Goch ac eraill, ac i chwilio am bethau difyr ar bob tudalen.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

    Out of stock

  8. Gwiwerod Gwirion Bost

    Gwiwerod Gwirion Bost

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o 'The Squirrels who Squabbled.'

    Stori ddoniol ar fydr ac odl am ddwy wiwer farus sy'n gorfod dysgu rhannu.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Jeronimo

    Jeronimo

    Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).

    Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Douglas yn Chwarae Cuddio

    Douglas yn Chwarae Cuddio

    Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.

    Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Ascending Direction

Grid List

21-30 o 39