COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 32

  1. Y Criw Canol Nos

    Y Criw Canol Nos

    Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o The Midnight Gang gan David Walliams.

    Canol nos yw’r adeg pan mae’r rhan fwyaf o blant yn cysgu’n sownd. Pawb, wrth gwrs, heblaw’r Criw Canol Nos! Megis dechrau mae eu hanturiaethau nhw bryd hynny...

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  2. Rhyw Ddrwg yn y Caws

    Rhyw Ddrwg yn y Caws

    Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o Ratburger gan David Walliams.

    Mae llond trol o bethau’n poeni Begw, druan… Mae ei llysfam mor ddiog nes ei bod yn gofyn i Begw bigo’i thrwyn trosti. Ac mae bwli’r ysgol wrth ei bodd yn poeri ar ei phen. Ond yn waeth byth mae gan Bryn, y dyn byrgyrs afiach, gynlluniau ofnadwy ar gyfer ei llygoden fawr hi. Fedra i ddim datgelu beth yn union yw’r cynlluniau hynny, ond mae cliw go fawr yn nheitl y llyfr hwn…

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  3. Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi Yates

    Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi Yates

    Ffeithiau yw popeth i Ffredi Yates, bachgen 11 oed. Ar ôl i’w fam-gu farw ac mae’n darganfod bod ei dad biolegol yn dal yn fyw yn ne Cymru, mae’n penderfynu dilyn y ffeithiau. Ynghyd â’i ffrindiau gorau Ben a Ianto, mae’n sleifio i ffwrdd ar antur oes (neu o leiaf, gwyliau’r haf) i chwilio am ei dad. Addasiad Cymraeg o The Super Miraculous Journey of Freddie Yates gan Jenny Pearson. Pan mae’r tri bachgen yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau anesboniadwy yn ddiarwybod trwy gystadleuaeth bwyta nionyn, cwpl o wisgoedd archarwyr, a rhai lladron hynafol blin iawn, mae Ffredi yn darganfod na ellir esbonio rhai pethau bob amser - ac weithiau mae beth rydych chi wedi bod yn chwilio amndano reit o flaen eich llygaid yr holl amser! Yn ysgogol a doniol, mae Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi Yates yn stori galonogol am wir ystyr teulu. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Branwen

    Branwen

    Mae’r llyfr hwn yn gynrychiolaeth graffig o ail gangen y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr. Nod y llyfr yw cyflwyno plant a phobl ifanc i’r chwedl, ac i ail-ddweud y stori mewn ffordd weledol ac emosiynol i gynulleidfaoedd newydd gan ddefnyddio gwaith celf sy’n deillio o arteffactau hanesyddol go iawn.

    • Testun dwyieithog
    • Arlunwaith lliwgar, llachar a thrawiadol gyda chyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Siwrne yn y Gorffennol

    Siwrne yn y Gorffennol

    Mae Aled Tomos wrth ei fodd ag anturiaethau, felly mae’n llawn cyffro pan fydd ef a’i chwaer Rhian yn syrthio trwy wydr drych eu modryb ac yn glanio yn 1912. Mae gwibio ar hyd y lle mewn car gwefreiddiol o beryglus, darganfod creiriau hynafol a hyd yn oed ddal troseddwr neu ddau yn dipyn o hwyl! Ond mae angen iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o fynd adre...

    Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres antur fywiog sy’n mynd yn ôl mewn amser, gan yr awdures arobryn, SALLY NICHOLLS.






     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Peff

    Peff

    Addasiad o Fing gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross). Mae gan Mabli Mwyn bopeth y byddai ei angen erioed. Ond dydi popeth ddim yn ddigon. Mae hi eisiau mwy, mwy, mwy! Pan mae Mabli’n datgan ei bod hi eisiau PEFF, dim ond un problem sydd...Beth ydi PEFF? Stori hyfryd o hurt a gwirioneddol wallgo’ am ddau riant perffaith glên a’u merch perffaith ffiaidd – a dyfodiad ffrwydrol y PEFF! Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Y Biliwnydd Bach

    Y Biliwnydd Bach

    Addasiad gan Mared Llwyd o Billionaire Boy gan David Walliams.

    Mae Twm yn byw breuddwyd pob plentyn 12 oed. Mae'n filiwnydd gyda'i ali fowlio, ei gar rasio, ei sinema a'i was ei hun, sydd yn orangwtang! Ond ni all arian brynu'r un peth mawr sydd ar goll ym mywyd Twm, sef ffrind!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Y Bachgen Mewn Ffrog

    Y Bachgen Mewn Ffrog

    Addasiad Iwan Huws o 'The Boy in a Dress' gan David Walliams.

    Mae Dennis yn byw mewn tŷ cyffredin, ar stryd gyffredin, mewn tref gyffredin. Ond mae e ar fin camu ychydig y tu hwnt i ffiniau ei fywyd arferol, a gweld nad oes rhaid i bawb fyw’r un fath a’i gilydd.

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Anti Afiach

    Anti Afiach

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o 'Awful Auntie' gan David Walliams.

    Llyfr anturus a doniol am Swyn Plas y Sarnau, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Sarnau. OND mae un peth sy'n ceisio rhwystro hyn rhag digwydd, sef Anti Afiach a'i thylluan anferth! Yn ffodus, mae gan Swyn gynllwyn...

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  10. Cyfrinach Nana Crwca

    Cyfrinach Nana Crwca

    Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o 'Gangsta Granny' gan David Walliams.

    Mae'n gas gan Ben aros yn nhŷ Nana Crwca bob nos Wener. Mae hi'n nain gyffredin ym mhob ffordd: gwallt gwyn, dannedd gosod, ac yn drewi o fresych. Ond mae ganddi gyfrinach arbennig iawn. Ychydig a wyddai Ben fod ei nain oedrannus yn lleidr gemwaith rhyngwladol!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 32