COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 29

  1. Dihangfa Fawr Taid

    Dihangfa Fawr Taid

    Addasiad Cymraeg Dewi Wyn Williams o Grandpa's Great Escape gan David Walliams. Portread o berthynas agos ac unigryw rhwng plentyn a’i daid a oedd yn beilot awyren Spitfire ac yn arwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cawn gyfle i rannu eu hanturiaethau sy’n llawn cyffro a hiwmor. Mwy o wybodaeth
    £8.99

  2. Siwrne yn y Gorffennol

    Siwrne yn y Gorffennol

    Mae Aled Tomos wrth ei fodd ag anturiaethau, felly mae’n llawn cyffro pan fydd ef a’i chwaer Rhian yn syrthio trwy wydr drych eu modryb ac yn glanio yn 1912. Mae gwibio ar hyd y lle mewn car gwefreiddiol o beryglus, darganfod creiriau hynafol a hyd yn oed ddal troseddwr neu ddau yn dipyn o hwyl! Ond mae angen iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o fynd adre...

    Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres antur fywiog sy’n mynd yn ôl mewn amser, gan yr awdures arobryn, SALLY NICHOLLS.






     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Peff

    Peff

    Addasiad o Fing gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross). Mae gan Mabli Mwyn bopeth y byddai ei angen erioed. Ond dydi popeth ddim yn ddigon. Mae hi eisiau mwy, mwy, mwy! Pan mae Mabli’n datgan ei bod hi eisiau PEFF, dim ond un problem sydd...Beth ydi PEFF? Stori hyfryd o hurt a gwirioneddol wallgo’ am ddau riant perffaith glên a’u merch perffaith ffiaidd – a dyfodiad ffrwydrol y PEFF! Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Y Biliwnydd Bach

    Y Biliwnydd Bach

    Addasiad gan Mared Llwyd o Billionaire Boy gan David Walliams.

    Mae Twm yn byw breuddwyd pob plentyn 12 oed. Mae'n filiwnydd gyda'i ali fowlio, ei gar rasio, ei sinema a'i was ei hun, sydd yn orangwtang! Ond ni all arian brynu'r un peth mawr sydd ar goll ym mywyd Twm, sef ffrind!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Y Bachgen Mewn Ffrog

    Y Bachgen Mewn Ffrog

    Addasiad Iwan Huws o 'The Boy in a Dress' gan David Walliams.

    Mae Dennis yn byw mewn tŷ cyffredin, ar stryd gyffredin, mewn tref gyffredin. Ond mae e ar fin camu ychydig y tu hwnt i ffiniau ei fywyd arferol, a gweld nad oes rhaid i bawb fyw’r un fath a’i gilydd.

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Anti Afiach

    Anti Afiach

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o 'Awful Auntie' gan David Walliams.

    Llyfr anturus a doniol am Swyn Plas y Sarnau, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Sarnau. OND mae un peth sy'n ceisio rhwystro hyn rhag digwydd, sef Anti Afiach a'i thylluan anferth! Yn ffodus, mae gan Swyn gynllwyn...

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Cyfrinach Nana Crwca

    Cyfrinach Nana Crwca

    Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o 'Gangsta Granny' gan David Walliams.

    Mae'n gas gan Ben aros yn nhŷ Nana Crwca bob nos Wener. Mae hi'n nain gyffredin ym mhob ffordd: gwallt gwyn, dannedd gosod, ac yn drewi o fresych. Ond mae ganddi gyfrinach arbennig iawn. Ychydig a wyddai Ben fod ei nain oedrannus yn lleidr gemwaith rhyngwladol!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Deintydd Dieflig

    Deintydd Dieflig

    Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o 'Demon Dentist' gan David Walliams.

    Digwyddai pethau od yn y dre ganol nos wrth i'r plant osod dant o dan y gobennydd, gan obeithio y byddai'r tylwyth teg yn galw heibio. Ond pethau digon erchyll oedd i'w cael yno erbyn y bore; gwlithen farw, pry cop, llygad ... ac mae rhywbeth amheus iawn am ddeintydd newydd y dre.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Mr Ffiaidd

    Mr Ffiaidd

    Addasiad Cymraeg Gruffudd Antur o Mr Stink gan David Walliams.

    Yn y llyfr hwn cawn glywed am hanes Lois, merch unig a dihyder. Un diwrnod, mae'n cwrdd â Mr Ffiaidd, y trempyn lleol, ac er ei fod yn drewi braidd, fu neb erioed mor garedig wrthi.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Pecyn David Walliams i blant hŷn 2

    Pecyn David Walliams i blant hŷn 2

    Pecyn yn cynnwys Anti Afiach, Y Bachgen Mewn Ffrog ac Y Biliwnydd Bach, addasiadau o lyfrau poblogaidd David Walliams.

    Mwy o wybodaeth
    £18.99

Set Descending Direction

Grid List

11-20 o 29