Llyfr stori ddwyieithog sy'n dod yn fyw gyda'r pyped Brog Broga!
Stori am froga sydd wedi tyfu'n fawr ac sy'n chwilio am gartref newydd. Mae'n darganfod cartref braf gerllaw'r felin wynt, ond mae aderyn brawychus gerllaw. Mae'n darganfod safle braf ar ochr y ffordd, ond mae o'n rhy swnllyd! Tybed a fydd Brog Broga druan yn llwyddo i ganfod cartref cyn diwedd y stori?
Llyfr pyped sy'n annog plant i ryngweithio ac ymateb, ac sy'n annog diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc iawn.
Mwy o wybodaeth
Mêl yw hoff fwyd Douglas, ac wrth baratoi cacen fêl mae Douglas wedi cyffroi'n lan! Tybed a yw'n ddigon dewr i flasu rhywbeth gwahanol?
Llyfr dwyieithog sydd yn annog plant i flasu bwydydd gwahanol.
Mwy o wybodaeth
Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!
Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.
Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.
Mwy o wybodaeth
Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!
Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o Ten Little Dinosaurs.
Mae deg deinosor bach yn cychwyn ar antur, ond tybed sut hwyl maen nhw'n ei gael wrth gwrdd â'r triceratops grwgnachlyd, diplodocus trwstfawr a t-rex llwglyd? Stori swnllyd gyda thestun sy'n odli a llu o bethau i'r plant chwilio amdanynt!