COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Nofelau a Llyfrau Stori

Set Descending Direction

Grid List

4 Eitem

  1. Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Mae cyfres Chwedlau’r Copa Coch yn parhau, ac ar ôl trechu bwystfil hunllefus yn Yr Horwth, mae arwyr y Copa Coch bellach yn wynebu perygl llawer mwy. Y melltith yn y mynydd... Mae blwyddyn wedi pasio. Wrth i Sara, Pietro, Heti a Nad wneud eu gorau i ymgartrefu ar lethrau'r Copa Coch, mae'r ysbrydion maleisus sy'n llechu yng nghrombil y mynydd yn dianc o'u cartref tywyll a bygwth y pentref newydd. Dim ond un peth sydd i'w wneud: mentro i'r crombil mewn ymgais orffwyll i ddifa’r ysbrydion, unwaith ac am byth. Yn fuan iawn mae’r criw yn cael eu gwahanu – Pietro yn cael ei feddiannu gan ysbryd milwr o’r gorffennol pell; Sara a Nad yn cychwyn ar daith i’w achub drwy’r ddinas danddaearol o dan y mynydd; a Heti, yn ei thro, yn dilyn yn eu holion traed hwythau, yng nghwmni cantores o wlad bell... a’r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r mynydd. A thra bod ei gyfeillion yn gwneud eu gorau i’w achub, mae Pietro yn ailfyw brwydr dyngedfennol gafodd ei hymladd ar y mynydd fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn cyfarfod arwyr a dihirod wedi hen farw, ac yn dod i ddysgu bod y Copa Coch yn llawer pwysicach nac oedd neb wedi ei sylweddoli... • Nofel ffantasi i bobl ifanc • Parhau â'r stori epig a llawn hiwmor gafodd ei chychwyn yn Yr Horwth • Perffaith i'r rheiny sy’n hoff o antur, brwydrau, ysbrydion, perygl, a chrancod mawr bwystfilaidd. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Yr Un Hen Alys

    Yr Un Hen Alys

    Addasiad o Still Alice gan Lisa Genova. Pum deg mlwydd oed yw Alys pan mae'n cael ei thynnu i bwll diwaelod clefyd Alzheimer. Mae'n athro prifysgol, gwraig, mam i dri o blant, gyda llyfrau i'w hysgrifennu, llefydd i'w gweld, wyrion i'w cyfarfod. Ond pan mae'n anghofio sut i wneud ei phwdin 'Dolig, pan mae'n mynd ar goll yn ei iard gefn, pan mae'n methu adnabod ei merch sy'n actores ar ôl perfformiad clodwiw, mae'n dyfeisio cynllun. Ydy hi'n ei gyflawni? A ddylai hi ei gyflawni? Colli ei doeau, byw ar gyfer pob dydd, a'i chof tymor byr yn hongian ar linyn brau. Ond yr un hen Alys yw hi o hyd. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Dawnsio gyda Dementia - Fy Mhrofiad o Fyw'n Bositif gyda Dementia

    Dawnsio gyda Dementia - Fy Mhrofiad o Fyw'n Bositif gyda Dementia

    Cafodd Christine Bryden ddiagnosis o glefyd Alzheimer pan oedd yn 46 oed. Dyma hanes ei phrofiad hi o fyw gyda dementia, drwy archwilio effeithiau problemau'r cof, colli annibyniaeth, anawsterau cyfathrebu a'r blinder o ymdopi â thasgau syml ei bywyd. Addasiad Cymraeg gan Eleanor Reynolds o Dancing with Dementia. Mae'n disgrifio sut y parhoadd i fyw bywyd gweithgar, gyda chefnogaeth ei gwr. Bu'n eiriolwr dros bobl â dementia gan roi sgyrsiau mewn cynhadleddau ar draws y byd. Llyfr sy'n archwilio sut mae dementia yn herio ein syniadau am hunaniaeth bersonol. Mwy o wybodaeth
    £14.99

  4. Cwlwm Creulon

    Cwlwm Creulon

    Nofel wreiddiol gan yr awdures Eiddwen Jones.

    Nofel hanesyddol afaelgar wedi'i lleoli yn sir y Fflint a swydd Cumbria ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Does dim dianc rhag y twyll ddaw i blagio Phoebe Hughes, morwyn ifanc ar fferm Caeau Gwylltion

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

4 Eitem